Valid from 30/10/2023
20DehongliLL+C
Yn y Ddeddf hon–
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol ar gyfer ardal yng Nghymru;
mae i “bag siopa” (“carrier bag”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 2 o’r Atodlen;
mae i “cynnyrch plastig” (“plastic product”) yr ystyr a roddir yn adran 1(2);
mae i “cynnyrch plastig untro gwaharddedig” (“prohibited single-use plastic product”) yr ystyr a roddir yn adran 2(2);
mae i “defnyddiwr” (“consumer”) yr ystyr a roddir yn adran 5(11);
ystyr “partneriaeth” (“partnership”) yw—
(a)partneriaeth o fewn Deddf Partneriaeth 1890 (p. 39), neu
(b)partneriaeth gyfyngedig sydd wedi ei chofrestru o dan Ddeddf Partneriaethau Cyfyngedig 1907 (p. 24);
mae i “plastig” (“plastic”) yr ystyr a roddir yn adran 1(4);
mae i “swyddog awdurdodedig awdurdod lleol” (“authorised officer of a local authority”) yr ystyr a roddir yn adran 7(2);
mae i “untro” (“single-use”), mewn perthynas â chynnyrch plastig, yr ystyr a roddir yn adran 1(3).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 22(2)
