Gorfodi
19Atebolrwydd troseddol uwch-swyddogion etc.
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo trosedd o dan y Ddeddf hon yn cael ei chyflawni gan—
(a)
corff corfforedig;
(b)
partneriaeth;
(c)
cymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth.
(2)
Os profir bod y drosedd wedi ei chyflawni gan y canlynol, neu gyda chydsyniad neu ymoddefiad y canlynol, neu y gellir ei phriodoli i esgeulustod ar ran y canlynol—
(a)
un o uwch-swyddogion y corff corfforedig neu’r bartneriaeth neu’r gymdeithas anghorfforedig, neu
(b)
unrhyw berson sy’n honni ei fod yn gweithredu mewn rhinwedd a grybwyllir ym mharagraff (a),
mae’r uwch-swyddog hwnnw neu’r person hwnnw (yn ogystal â’r corff corfforedig, y bartneriaeth neu’r gymdeithas) yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.
(3)
Yn yr adran hon, ystyr “uwch-swyddog” yw—
(a)
mewn perthynas â chorff corfforedig, cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff corfforedig;
(b)
mewn perthynas â phartneriaeth, partner yn y bartneriaeth;
(c)
mewn perthynas â chymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth, unrhyw swyddog i’r gymdeithas neu unrhyw aelod o’i gorff llywodraethu.
(4)
Yn is-adran (3), ystyr “cyfarwyddwr”, mewn perthynas â chorff corfforedig y rheolir ei faterion gan ei aelodau, yw aelod o’r corff corfforedig.