Gorfodi

17Sancsiynau sifil

(1)

Yn yr adran hon, ystyr “Deddf 2008” yw Deddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 (p. 13).

(2)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth, mewn perthynas â’r drosedd o dan adran 5, y gellid ei gwneud o dan Ran 3 o Ddeddf 2008 (sancsiynau sifil)—

(a)

os oedd awdurdod lleol yn rheoleiddiwr at ddibenion Rhan 3 o’r Ddeddf honno, a

(b)

os oedd y drosedd yn drosedd berthnasol mewn perthynas â swyddog gorfodi at ddibenion Rhan 3 o’r Ddeddf honno.

(3)

Mae adrannau 63 i 70 o Ddeddf 2008 (canllawiau; arfer pwerau; talu i’r Gronfa Gyfunol) yn gymwys i ddarpariaeth a wneir o dan yr adran hon fel y maent yn gymwys i ddarpariaeth a wneir o dan Ran 3 o’r Ddeddf honno.

(4)

Mae adran 60(1) a (2) o Ddeddf 2008 (ymgynghori) yn gymwys i reoliadau o dan is-adran (1) fel y maent yn gymwys i orchymyn o dan Ran 3 o’r Ddeddf honno.

(5)

At ddibenion is-adran (3) a (4), mae cyfeiriadau at reoleiddiwr yn adrannau 60 a 63 i 70 o Ddeddf 2008 i’w darllen fel cyfeiriadau at awdurdod lleol.