Deddf Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023

Valid from 30/10/2023

16Eiddo a gyfeddir: digolleduLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff person (“A”) a chanddo fuddiant mewn unrhyw beth y mae swyddog awdurdodedig awdurdod lleol wedi cymryd meddiant ohono o dan adran 13(1)(c) (“eiddo a gyfeddir”) wneud cais drwy gŵyn i unrhyw lys ynadon i gael ei ddigolledu.

(2)Mae is-adran (3) yn gymwys os yw’r llys, ar gais o dan yr adran hon, wedi ei fodloni—

(a)bod A wedi dioddef colled neu ddifrod oherwydd bod y swyddog awdurdodedig wedi cymryd meddiant o’r eiddo a gyfeddir, neu ei gadw, o dan amgylchiadau pan nad oedd yn angenrheidiol gwneud hynny at ddiben canfod a oedd trosedd o dan adran 5 wedi ei chyflawni, a

(b)na ellir priodoli’r golled neu’r difrod i esgeulustod neu ddiffyg A.

(3)Caiff y llys orchymyn i’r awdurdod lleol dalu digollediad i A.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 22(2)