Deddf Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023

Valid from 30/10/2023

14Y drosedd o rwystro etc. swyddogionLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae person sy’n rhwystro yn fwriadol swyddog awdurdodedig awdurdod lleol sy’n arfer swyddogaethau o dan adrannau 9 i 13 yn cyflawni trosedd.

(2)Mae unrhyw berson sydd, heb achos rhesymol yn methu â chydymffurfio â gofyniad o dan adran 13(1)(b) neu (d) neu 13(4)(b) yn cyflawni trosedd.

(3)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(4)Pan na fo person yn ateb unrhyw gwestiwn neu gyflwyno unrhyw ddogfen y byddai hawl gan y person i wrthod ei ateb neu wrthod ei chyflwyno mewn achos mewn llys yng Nghymru neu yn Lloegr neu at ddibenion achos o’r fath (gweler adran 13(6)), nid yw hyn yn gyfystyr â rhwystro o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 22(2)