Gorfodi

14Y drosedd o rwystro etc. swyddogion

(1)

Mae person sy’n rhwystro yn fwriadol swyddog awdurdodedig awdurdod lleol sy’n arfer swyddogaethau o dan adrannau 9 i 13 yn cyflawni trosedd.

(2)

Mae unrhyw berson sydd, heb achos rhesymol yn methu â chydymffurfio â gofyniad o dan adran 13(1)(b) neu (d) neu 13(4)(b) yn cyflawni trosedd.

(3)

Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(4)

Pan na fo person yn ateb unrhyw gwestiwn neu gyflwyno unrhyw ddogfen y byddai hawl gan y person i wrthod ei ateb neu wrthod ei chyflwyno mewn achos mewn llys yng Nghymru neu yn Lloegr neu at ddibenion achos o’r fath (gweler adran 13(6)), nid yw hyn yn gyfystyr â rhwystro o dan yr adran hon.