xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Valid from 30/10/2023
(1)Caiff swyddog awdurdodedig awdurdod lleol sy’n mynd i fangre o dan adran 9, 10 neu 11, neu yn rhinwedd yr adrannau hynny, wneud unrhyw un neu ragor o’r canlynol os yw’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at ddiben canfod a yw trosedd o dan adran 5 wedi ei chyflawni—
(a)cynnal arolygiadau ac archwiliadau yn y fangre;
(b)ei gwneud yn ofynnol cyflwyno unrhyw beth yn y fangre, ei arolygu, a chymryd a chadw samplau ohono neu echdynion ohono am gyhyd ag y mae’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at y diben hwnnw;
(c)cymryd meddiant o unrhyw beth yn y fangre, a’i gadw am gyhyd ag y mae’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at y diben hwnnw;
(d)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi gwybodaeth am faterion sydd o fewn rheolaeth y person, neu ddarparu cyfleusterau a chymorth mewn cysylltiad â hwy.
(2)Os yw swyddog awdurdodedig awdurdod lleol yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at ddiben canfod a yw trosedd o dan adran 5 wedi ei chyflawni, caiff y swyddog drefnu i unrhyw beth a gyflwynir o dan is-adran (1)(b) neu unrhyw beth y mae’r swyddog wedi cymryd meddiant ohono o dan is-adran (1)(c) gael ei ddadansoddi.
(3)Os yw swyddog awdurdodedig awdurdod lleol, yn rhinwedd is-adran (1)(c), yn cymryd unrhyw beth o’r fangre, rhaid i’r swyddog adael yn y fangre ddatganiad—
(a)sy’n rhoi manylion yr hyn sydd wedi ei gymryd ac sy’n datgan bod y swyddog wedi cymryd meddiant ohono, a
(b)sy’n nodi’r person y caniateir gofyn iddo i’r eiddo gael ei ddychwelyd.
(4)Mae’r pwerau a roddir gan yr adran hon yn cynnwys y pŵer—
(a)i gopïo dogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre;
(b)i osod gofynion o ran sut y darperir dogfennau (a gaiff gynnwys gofynion i ddarparu copïau darllenadwy o ddogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre ac a gedwir yn electronig).
(5)At y diben hwn, mae “dogfennau” yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi ei chofnodi ar unrhyw ffurf; ac mae cyfeiriadau at ddogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre yn cynnwys—
(a)dogfennau a gedwir ar gyfrifiaduron neu ddyfeisiau electronig eraill yn y fangre, a
(b)dogfennau a gedwir yn rhywle arall ac y gellir cael mynediad iddynt drwy gyfrifiaduron neu ddyfeisiau electronig eraill yn y fangre.
(6)Nid yw’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i berson ateb unrhyw gwestiwn neu gyflwyno unrhyw ddogfen y byddai hawl gan y person i wrthod ei ateb neu wrthod ei chyflwyno mewn achos mewn llys yng Nghymru neu yn Lloegr neu at ddibenion achos o’r fath.
(7)Mae’r adran hon yn gymwys i gerbyd fel pe bai’n fangre.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 22(2)