Gorfodi
12Pwerau mynediad: atodol
(1)
Caiff swyddog awdurdodedig awdurdod lleol sy’n mynd i fangre o dan adran 9, 10 neu 11, neu yn rhinwedd yr adrannau hynny, fynd ag unrhyw bersonau eraill ac unrhyw gyfarpar y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn briodol.
(2)
Mae’r pwerau mynediad sy’n arferadwy o dan adran 9, 10 neu 11, neu yn rhinwedd yr adrannau hynny, yn gymwys i gerbyd fel pe bai’n fangre.
(3)
Os yw meddiannydd mangre yn bresennol ar yr adeg y mae’r swyddog awdurdodedig yn ceisio gweithredu gwarant o dan adran 10 neu 11 a mynd i’r fangre, rhaid i’r swyddog—
(a)
hysbysu’r meddiannydd ynghylch enw’r swyddog;
(b)
cyflwyno tystiolaeth ddogfennol i’r meddiannydd o awdurdodiad y swyddog;
(c)
cyflenwi copi o’r warant i’r meddiannydd.
(4)
Os nad yw mangre y mae swyddog awdurdodedig wedi ei awdurdodi i fynd iddi gan warant o dan adran 10 neu 11 wedi ei meddiannu, neu os yw’r meddiannydd yn absennol dros dro, yna wrth adael y fangre rhaid i’r swyddog ei gadael wedi ei diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad anawdurdodedig ag yr oedd pan aeth y swyddog iddi.