Gorfodi
10Pŵer mynediad: mangreoedd preswyl
(1)
Caiff ynad heddwch ddyroddi gwarant yn awdurdodi swyddog awdurdodedig awdurdod lleol i fynd i fangre breswyl, drwy rym os oes angen, os yw wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw—
(a)
bod seiliau rhesymol dros gredu bod trosedd o dan adran 5 wedi ei chyflawni yn ardal yr awdurdod lleol, a
(b)
ei bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre at ddiben canfod a yw’r drosedd honno wedi ei chyflawni.
(2)
Mae’r warant yn parhau i fod mewn grym hyd ddiwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y’i dyroddwyd.