Hwn yw’r Tabl y cyfeirir ato yn adran 2.
TABLCynnyrch | Esemptiad |
|---|
Cynhyrchion ar gyfer bwyta bwyd ac yfed diod |
|---|
Caeadau ar gyfer cwpanau neu gynhwysyddion cludfwyd | Caead nad yw wedi ei wneud o bolystyren. |
Cwpanau | Cwpan nad yw wedi ei wneud o bolystyren ehangedig neu bolystyren allwthiedig ewynnog. |
Cynhwysyddion cludfwyd | Cynhwysydd cludfwyd nad yw wedi ei wneud o bolystyren ehangedig neu bolystyren allwthiedig ewynnog. |
Cytleri | |
Gwellt | Esemptiad 1 Mewn cysylltiad â gwerthu gwelltyn gan berson (“P”) sy’n cynnal yn gyfreithlon fusnes fferyllfa fanwerthu— - (a)
pan— - (i)
fo P yn unig fasnachwr a’r trafodiad yn cael ei gynnal gan P ei hun, neu’n cael ei gynnal ar ran P gan fferyllydd neu unigolyn sy’n gweithredu o dan oruchwyliaeth fferyllydd (gan gynnwys P), neu - (ii)
na fo P yn unig fasnachwr a’r trafodiad yn cael ei gynnal ar ran P gan fferyllydd neu unigolyn sy’n gweithredu o dan oruchwyliaeth fferyllydd, a
- (b)
pan fo’r defnyddiwr y mae P yn cyflenwi’r gwelltyn iddo yn datgan ei fod ef angen y gwelltyn, neu fod person y byddant yn rhoi’r gwelltyn iddo angen y gwelltyn, am resymau iechyd neu anabledd.
Esemptiad 2 Mewn cysylltiad â darparu gwelltyn am ddim gan berson (“P”), pan fo’r defnyddiwr y mae P yn cyflenwi’r gwelltyn iddo (“A”)— - (a)
yng ngofal P, a - (b)
pan fo P, neu unigolyn sy’n darparu gofal i A ar ran P, yn credu yn rhesymol fod angen y gwelltyn ar A am resymau iechyd neu anabledd.
Esemptiad 3 Mewn cysylltiad â darparu gwelltyn am ddim gan berson (“P”), pan fo’r defnyddiwr y mae P yn cyflenwi’r gwelltyn iddo yn datgan ei fod angen y gwelltyn, neu fod unigolyn y bydd y person yn rhoi’r gwelltyn iddo angen y gwelltyn, am resymau iechyd neu anabledd. Esemptiad 4 Gwelltyn a gyflenwir am bwrpas sy’n gysylltiedig â darparu gofal meddygol neu driniaeth feddygol.
|
Platiau | |
Tröydd diod | |
Cynhyrchion eraill |
|---|
Bagiau siopa | Esemptiad 1 Bag siopa— - (a)
sydd ag uchafswm dimensiynau o 125mm (uchder) x 125mm (lled), - (b)
nad oes ganddo gwysed, ac - (c)
nad oes ganddo handlenni.
Esemptiad 2 Bag siopa, o faint sy’n gymesur â maint neu natur yr eitemau sydd i’w cludo, a gyflenwir at ddiben cludo eitemau o’r disgrifiad a ganlyn— - (a)
pysgod amrwd, cig amrwd neu ddofednod amrwd (gan gynnwys cynhyrchion pysgod amrwd, cynhyrchion cig amrwd neu gynhyrchion dofednod amrwd) i’w bwyta gan bobl neu anifeiliaid (pa un a yw’r eitem wedi ei becynnu ai peidio); - (b)
unrhyw fwyd arall i’w fwyta gan bobl neu anifeiliaid sydd heb ei becynnu; - (c)
bwyd i’w fwyta gan bobl neu anifeiliaid (i’r graddau nad yw’r eitem yn dod o fewn paragraff (a) neu (b)) a ddarperir am ddim; - (d)
hadau, bylbiau, cormau neu risomau heb eu pecynnu; - (e)
nwyddau heb eu pecynnu a halogwyd gan bridd; - (f)
llafnau neu eitemau â llafnau heb eu pecynnu; - (g)
eitemau heb eu pecynnu a wnaed o bapur; - (h)
cynhyrchion hylendid personol a ddarperir am ddim; - (i)
creaduriaid dyfrol byw mewn dŵr.
Esemptiad 3 Bag siopa a gyflenwir at ddiben cludo alcohol neu dybaco mewn ardal a ddynodwyd yn ardal o dan gyfyngiad diogelwch o dan adran 11A o Ddeddf Diogelwch wrth Hedfan 1982 (p. 36).
|
Ffyn balwnau | |
Ffyn cotwm | |
Cynhyrchion a wnaed o blastig ocso-ddiraddiadwy |
|---|
Unrhyw gynnyrch a wnaed o gynnyrch plastig ocso-ddiraddiadwy— - (a)
pa un a yw’r cynnyrch hwnnw yn ymddangos yn rhywle arall yn y tabl hwn ai peidio, a - (b)
pa un a fyddai’r math penodol o gynnyrch, neu’r diben y cyflenwir y cynnyrch hwnnw (neu fath penodol o gynnyrch) ar ei gyfer, fel arall wedi ei esemptio oherwydd cofnod yng ngholofn 2 ai peidio.
| |