Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Gorfodi

Adran 18 - Troseddau a gyflawnir gan bartneriaethau a chymdeithasau anghorfforedig eraill

64.Mae’r adran hon yn darparu bod achos am droseddau o dan y Ddeddf hon yr honnir eu bod wedi eu cyflawni gan bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig heblaw partneriaeth i’w dwyn yn enw’r bartneriaeth neu’r gymdeithas ac nid yn enw unrhyw un neu ragor o’i haelodau. Mae unrhyw ddirwyon ar euogfarn am drosedd o dan y Ddeddf i’w talu o asedau’r bartneriaeth neu gronfeydd y gymdeithas.