(1)Caiff yr CPG sefydlu is-grwpiau.
(2)Caiff is-grŵp—
(a)cyflawni unrhyw swyddogaeth a ddirprwyir iddo gan yr CPG;
(b)cynorthwyo’r CPG i gyflawni ei swyddogaethau mewn unrhyw ffyrdd a bennir gan yr CPG.
(3)O ran is-grŵp—
(a)rhaid i aelod o’r CPG ei gadeirio, a
(b)caiff gynnwys aelodau eraill o’r CPG ac unigolion eraill.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)
I2A. 8 mewn grym ar 29.7.2023 gan O.S. 2023/794, ergl. 2(h)