5Enwebu aelodau penodedigLL+C
(1)Cyn penodi cynrychiolwyr cyflogwyr, rhaid i’r Prif Weinidog geisio enwebiadau gan bersonau neu gyrff y mae’r Prif Weinidog yn ystyried eu bod yn cynrychioli barn y categorïau o gyflogwr y cyfeirir atynt yn adran 3.
(2)Cyn penodi cynrychiolwyr gweithwyr, rhaid i’r Prif Weinidog geisio enwebiadau gan y corff sy’n cynrychioli undebau llafur yng Nghymru a adnabyddir fel Wales TUC Cymru.
(3)Wrth benodi cynrychiolwyr cyflogwyr, rhaid i’r Prif Weinidog roi sylw i unrhyw enwebiadau a wnaed o dan is-adran (1).
(4)Wrth benodi cynrychiolwyr gweithwyr, ni chaiff y Prif Weinidog ond penodi unigolion sydd wedi eu henwebu o dan is-adran (2).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)
I2A. 5 mewn grym ar 29.7.2023 gan O.S. 2023/794, ergl. 2(e)
