Yn y Ddeddf hon—
ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw—
mewn perthynas â chorff cyhoeddus heblaw Bwrdd Iechyd Lleol neu ymddiriedolaeth GIG, y cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â 31 Mawrth;
mewn perthynas â Bwrdd Iechyd Lleol, blwyddyn gyfrifyddu o fewn yr ystyr a roddir gan y gorchymyn a wnaed o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42) sy’n sefydlu’r Bwrdd;
mewn perthynas ag ymddiriedolaeth GIG, blwyddyn gyfrifyddu o fewn yr ystyr a roddir gan y gorchymyn a wnaed o dan adran 18 o’r Ddeddf honno sy’n sefydlu’r ymddiriedolaeth;
ystyr “CPG” (“SPC”) yw’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol a sefydlir gan adran 1;
ystyr “DLlCD 2015” (“the WFGA 2015”) yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2);
ystyr “y Senedd” (“the Senedd”) yw Senedd Cymru;
mae i “undeb llafur” yr ystyr a roddir i “trade union” gan adran 1 o Ddeddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 (p. 52) (ac mae i “cydnabyddedig” mewn perthynas ag undeb llafur yr ystyr a roddir i “recognised” gan adran 178(3) o’r Ddeddf honno).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 46 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)
I2A. 46 mewn grym ar 29.7.2023 gan O.S. 2023/794, ergl. 2(m)