RHAN 4DARPARIAETHAU TERFYNOL

46Dehongli cyffredinol

Yn y Ddeddf hon—

ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw—

(a)

mewn perthynas â chorff cyhoeddus heblaw Bwrdd Iechyd Lleol neu ymddiriedolaeth GIG, y cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â 31 Mawrth;

(b)

mewn perthynas â Bwrdd Iechyd Lleol, blwyddyn gyfrifyddu o fewn yr ystyr a roddir gan y gorchymyn a wnaed o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42) sy’n sefydlu’r Bwrdd;

(c)

mewn perthynas ag ymddiriedolaeth GIG, blwyddyn gyfrifyddu o fewn yr ystyr a roddir gan y gorchymyn a wnaed o dan adran 18 o’r Ddeddf honno sy’n sefydlu’r ymddiriedolaeth;

ystyr “CPG” (“SPC”) yw’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol a sefydlir gan adran 1;

ystyr “DLlCD 2015” (“the WFGA 2015”) yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2);

ystyr “y Senedd” (“the Senedd”) yw Senedd Cymru;

mae i “undeb llafur” yr ystyr a roddir i “trade union” gan adran 1 o Ddeddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 (p. 52) (ac mae i “cydnabyddedig” mewn perthynas ag undeb llafur yr ystyr a roddir i “recognised” gan adran 178(3) o’r Ddeddf honno).