RHAN 3CAFFAEL CYHOEDDUS CYMDEITHASOL GYFRIFOL

PENNOD 4CYFFREDINOL

45Dehongli Rhan 3

(1)

Yn y Rhan hon—

mae i “awdurdod contractio” (“contracting authority”) yr ystyr a roddir yn adran 22;

mae i “caffael cyhoeddus” (“public procurement”) yr ystyr a roddir yn adran 23;

mae i “y cod allanoli gwasanaethau cyhoeddus a’r gweithlu” (“the public services outsourcing and workforce code”) yr ystyr a roddir yn adran 32(1);

mae i “contract allanoli gwasanaethau” (“outsourcing services contract”) yr ystyr a roddir yn adran 26(2);

F1...

mae i “contract gweithiau” F2yr ystyr a roddir i “works contract” gan baragraff 4 o Atodlen 1 i Ddeddf Caffael 2023 (p. 54);

F3...

mae i “contract rhagnodedig” (“prescribed contract”) yr ystyr a roddir yn adran 24(8);

mai i “cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol” (“social public works clauses”) yr ystyr a roddir yn adran 27;

mae i “cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol” (“social public workforce clauses”) yr ystyr a roddir yn adran 33;

ystyr “cytundeb fframwaith” (“framework agreement”) yw cytundeb rhwng un neu ragor o awdurdodau contractio ac un neu ragor o weithredwyr economaidd, gyda’r diben o sefydlu’r prif delerau sy’n llywodraethu contractau cyhoeddus (contractau yn ôl y gofyn) sydd i’w dyfarnu yn ystod cyfnod penodol, yn enwedig o ran prisio’r pethau y rhagwelir y cânt eu caffael a, lle y bo’n briodol, eu nifer;

mae i “gweithiau” F4(“works”) yr ystyr a roddir gan reoliad 45 o Reoliadau Caffael (Cymru) 2024 ac Atodlen 3 iddynt;

ystyr “gweithredwr economaidd” (“economic operator”) yw unrhyw berson sy’n cynnig cyflawni gweithiau, cyflenwi cynhyrchion neu ddarparu gwasanaethau ar y farchnad;

F5...

F6...

F7...

mae i “sefydliadau gwirfoddol” yr ystyr a roddir i “relevant voluntary organisations” o fewn ystyr adran 74(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(2)

At ddibenion y Rhan hon mae gwerth amcangyfrifedig contract i’w ganfod yn unol F8ag adran 4 o Ddeddf Caffael 2023.