xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Yn y Rhan hon—
mae i “awdurdod contractio” (“contracting authority”) yr ystyr a roddir yn adran 22;
mae i “caffael cyhoeddus” (“public procurement”) yr ystyr a roddir yn adran 23;
mae i “y cod allanoli gwasanaethau cyhoeddus a’r gweithlu” (“the public services outsourcing and workforce code”) yr ystyr a roddir yn adran 32(1);
mae i “contract allanoli gwasanaethau” (“outsourcing services contract”) yr ystyr a roddir yn adran 26(2);
mae i “contract consesiwn gweithiau” yr ystyr a roddir i “works concession contract” gan reoliadau 2(1) a 3(2) o’r Rheoliadau Contractau Consesiwn;
mae i “contract gweithiau” yr ystyr a roddir i “works contracts” gan reoliad 2(1) o’r Rheoliadau Contractau Cyfleustodau;
mae i “contract gweithiau cyhoeddus” (“public works contract”) yr ystyr a roddir gan reoliad 2(1) o’r Rheoliadau Contractau Cyhoeddus;
mae i “contract rhagnodedig” (“prescribed contract”) yr ystyr a roddir yn adran 24(8);
mai i “cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol” (“social public works clauses”) yr ystyr a roddir yn adran 27;
mae i “cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol” (“social public workforce clauses”) yr ystyr a roddir yn adran 33;
ystyr “cytundeb fframwaith” (“framework agreement”) yw cytundeb rhwng un neu ragor o awdurdodau contractio ac un neu ragor o weithredwyr economaidd, gyda’r diben o sefydlu’r prif delerau sy’n llywodraethu contractau cyhoeddus (contractau yn ôl y gofyn) sydd i’w dyfarnu yn ystod cyfnod penodol, yn enwedig o ran prisio’r pethau y rhagwelir y cânt eu caffael a, lle y bo’n briodol, eu nifer;
mae i “gweithiau” yr ystyr a roddir i “works” gan baragraff 2 o reoliad 2(1) o’r Rheoliadau Contractau Cyhoeddus;
ystyr “gweithredwr economaidd” (“economic operator”) yw unrhyw berson sy’n cynnig cyflawni gweithiau, cyflenwi cynhyrchion neu ddarparu gwasanaethau ar y farchnad;
ystyr ”y Rheoliadau Contractau Consesiwn” (“the Concession Contracts Regulations”) yw Rheoliadau Contractau Consesiwn 2016 (O.S. 2016/273);
ystyr “y Rheoliadau Contractau Cyfleustodau” (“the Utilities Contracts Regulations”) yw Rheoliadau Contractau Cyfleustodau 2016 (O.S. 2016/274);
ystyr “y Rheoliadau Contractau Cyhoeddus” (“the Public Contracts Regulations”) yw Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 (O.S. 2015/102);
mae i “sefydliadau gwirfoddol” yr ystyr a roddir i “relevant voluntary organisations” o fewn ystyr adran 74(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
(2)At ddibenion y Rhan hon mae gwerth amcangyfrifedig contract i’w ganfod yn unol â rheoliad 6(1) o’r Rheoliadau Contractau Cyhoeddus.