(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Rhan hon—
(a)yn arferadwy drwy offeryn statudol;
(b)yn cynnwys y pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol;
(c)yn cynnwys y pŵer i wneud darpariaeth ddeilliadol, darpariaeth atodol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.
(2)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wnaed o dan adran 22(4), 24(8)(c), 25(3) neu 27(4) oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron y Senedd ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
(3)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau a wnaed o dan y Rhan hon yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan y Senedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 44 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)
I2A. 44 mewn grym ar 21.3.2025 gan O.S. 2025/338, ergl. 2(l)