RHAN 3LL+CCAFFAEL CYHOEDDUS CYMDEITHASOL GYFRIFOL

PENNOD 4LL+CCYFFREDINOL

43CanllawiauLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau ar weithrediad y Rhan hon.

(2)Caiff canllawiau, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)bodloni’r gofyniad yn adran 24(1) i gynnal caffael cyhoeddus mewn ffordd gymdeithasol gyfrifol;

(b)gosod amcanion caffael cymdeithasol gyfrifol;

(c)cymryd pob cam rhesymol i fodloni amcanion caffael cymdeithasol gyfrifol;

(d)cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol;

(e)y cod allanoli gwasanaethau cyhoeddus a’r gweithlu;

(f)cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol;

(g)ymgynghori wrth lunio strategaeth gaffael;

(h)ffurf a chynnwys strategaethau caffael ac adroddiadau caffael blynyddol;

(i)y broses a ddefnyddir gan awdurdod contractio i gymeradwyo ei strategaeth gaffael;

(j)strategaethau caffael ar y cyd.

(3)Rhaid i awdurdod contractio roi sylw i ganllawiau perthnasol a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru.

(4)Cyn dyroddi canllawiau o dan y Rhan hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)yr CPG;

(b)unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 43 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

I2A. 43 mewn grym ar 21.3.2025 gan O.S. 2025/338, ergl. 2(k)