RHAN 3CAFFAEL CYHOEDDUS CYMDEITHASOL GYFRIFOL

PENNOD 3ADRODD AC ATEBOLRWYDD

40Cofrestr gontractau

(1)

Rhaid i awdurdod contractio greu, cynnal a chyhoeddi cofrestr gontractau.

(2)

Mae cofrestr gontractau yn gofrestr o gontractau cyhoeddus yr ymrwymwyd iddynt gan yr awdurdod contractio sydd o ddisgrifiad a ragnodwyd gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau (“contractau cofrestradwy”).

(3)

Mewn perthynas â phob contract cofrestradwy, rhaid i gofrestr gontractau gynnwys—

(a)

dyddiad dyfarnu’r contract;

(b)

enw’r contractiwr;

(c)

cyfeiriad prif fan busnes y contractiwr;

(d)

y pwnc;

(e)

y gwerth amcangyfrifedig;

(f)

y dyddiad cychwyn;

(g)

y dyddiad terfynu y darperir ar ei gyfer yn y contract (gan ddiystyru unrhyw opsiwn i estyn y contract) neu, pan na fo dyddiad wedi ei bennu, ddisgrifiad o’r amgylchiadau y bydd y contract yn terfynu odanynt;

(h)

hyd unrhyw gyfnod y gellir estyn y contract;

(i)

unrhyw wybodaeth arall a ragnodir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.

(4)

Ond caiff awdurdod atal cyhoeddi cofnod, neu ran o gofnod, yn y gofrestr os yw’n ystyried y byddai ei gyhoeddi neu ei chyhoeddi—

(a)

yn rhwystro gorfodi’r gyfraith neu fel arall yn groes i fudd y cyhoedd,

(b)

yn rhagfarnu buddiannau masnachol unrhyw berson,

(c)

yn rhagfarnu cystadleuaeth deg rhwng gweithredwyr economaidd, neu

(d)

yn datgelu cyfeiriad preswyl (yn achos yr wybodaeth y cyfeirir ati yn is-adran (3)(c)).

(5)

Ni chaiff awdurdod ddileu cofnod yn ei gofrestr gontractau ond ar ôl i’r contract y mae’r cofnod yn ymwneud ag ef ddod i ben neu gael ei derfynu.