RHAN 3CAFFAEL CYHOEDDUS CYMDEITHASOL GYFRIFOL

PENNOD 3ADRODD AC ATEBOLRWYDD

39Adroddiadau caffael cymdeithasol gyfrifol blynyddol

(1)

Rhaid i awdurdod contractio sydd wedi dyfarnu unrhyw gontractau rhagnodedig yn ystod blwyddyn ariannol lunio a chyhoeddi adroddiad blynyddol ar ei gaffael cyhoeddus cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn honno.

(2)

Rhaid i’r adroddiad gynnwys—

(a)

crynodeb o’r ymarferion caffael cyhoeddus a arweiniodd yn ystod y flwyddyn at ddyfarnu contract rhagnodedig neu y bwriadwyd iddynt arwain at ddyfarnu contract o’r fath;

(b)

adolygiad sy’n ystyried i ba raddau y cymerwyd pob cam rhesymol yn yr ymarferion caffael cyhoeddus hynny i gyflawni amcanion caffael cymdeithasol gyfrifol yr awdurdod;

(c)

i’r graddau y mae’r awdurdod yn ystyried y gellir cymryd yn rhesymol gamau pellach mewn ymarferion caffael cyhoeddus yn y dyfodol i gyflawni ei amcanion caffael cymdeithasol gyfrifol, datganiad o sut y mae’n bwriadu cymryd y camau hynny;

(d)

crynodeb o’r gwaith caffael cyhoeddus y mae’r awdurdod yn disgwyl ei gynnal yn ystod y ddwy flwyddyn ariannol nesaf;

(e)

gwybodaeth o’r math a grybwyllir yn is-adran (3) y mae rhaid ei phennu drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;

(f)

gwybodaeth arall a bennir drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(3)

Yr wybodaeth y cyfeirir ati yn is-adran (2)(e) yw gwybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod arnynt ei hangen er mwyn asesu i ba raddau—

(a)

y mae awdurdod contractio sy’n cyflawni ei amcanion caffael cymdeithasol gyfrifol yn cyfrannu at gyflawni’r nodau llesiant;

(b)

y mae caffael cyhoeddus awdurdod contractio, yn gyffredinol, yn cyfrannu at gyflawni’r nodau llesiant, er enghraifft drwy—

(i)

bod o fudd i economi ei ardal, gan gynnwys drwy ddyfarnu contractau i fusnesau bach a chanolig;

(ii)

ystyried materion amgylcheddol;

(iii)

ystyried materion cymdeithasol (eraill);

(iv)

hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg.