Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023

38Strategaeth gaffael
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i awdurdod contractio lunio strategaeth (“strategaeth gaffael”) sy’n nodi sut y mae’r awdurdod yn bwriadu cynnal caffael cyhoeddus.

(2)Rhaid i strategaeth gaffael, yn benodol—

(a)datgan sut y mae’r awdurdod yn bwriadu sicrhau y bydd yn cynnal caffael cyhoeddus mewn ffordd gymdeithasol gyfrifol yn unol ag adran 24(1);

(b)datgan sut y mae’r awdurdod yn bwriadu cymryd pob cam rhesymol i gyflawni ei amcanion caffael cymdeithasol gyfrifol pan fo’n cynnal caffael cyhoeddus mewn perthynas ag unrhyw gontract rhagnodedig;

(c)datgan sut y mae’r awdurdod yn bwriadu gwneud taliadau sy’n ddyledus o dan gontract yn brydlon ac, oni bai nad yw hyn yn rhesymol ymarferol, yn ddim hwyrach na 30 o ddiwrnodau ar ôl cyflwyno anfoneb (neu hawliad tebyg).

(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio is-adran (2)—

(a)er mwyn pennu materion eraill y mae rhaid i strategaethau caffael ymdrin â hwy;

(b)er mwyn lleihau nifer y diwrnodau a grybwyllir yn is-adran (2)(c).

(4)Rhaid i awdurdod contractio—

(a)adolygu ei strategaeth gaffael bob blwyddyn ariannol,

(b)gwneud unrhyw ddiwygiadau y mae’r awdurdod yn ystyried eu bod yn briodol o bryd i’w gilydd, ac

(c)cyhoeddi’r strategaeth, ac unrhyw ddiwygiadau, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl iddi gael ei llunio neu ei diwygio.

(5)Caniateir i ddau neu ragor o awdurdodau contractio gyflawni eu rhwymedigaethau o dan yr adran hon drwy lunio strategaeth gaffael ar y cyd.