xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3CAFFAEL CYHOEDDUS CYMDEITHASOL GYFRIFOL

PENNOD 2DYLETSWYDD CAFFAEL CYMDEITHASOL GYFRIFOL

Cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol a chod ymarfer allanoli gwasanaethau cyhoeddus

34Cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol mewn is-gontractau

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys os yw awdurdod contractio yn bwriadu cynnwys cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol mewn contract allanoli gwasanaethau y mae’n cytuno arno gyda gweithredwr economaidd (“contractiwr”) (ar ôl i’r awdurdod ystyried pa un ai i wneud hynny yn unol ag adran 26(1)(b)).

(2)Rhaid i’r awdurdod gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y rhwymedigaethau yn y cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol yn cael eu gweithredu pan fo’r contractiwr yn ymrwymo i is-gontract gydag unrhyw weithredwr economaidd arall (“is-gontractiwr”).

(3)Mae enghreifftiau o’r camau rhesymol y gellir eu cymryd o dan is-adran (2) yn cynnwys⁠—

(a)sicrhau bod cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol sy’n cael yr un effaith neu’r un effaith yn sylweddol â’r cymalau yn y contract allanoli gwasanaethau yn cael eu cynnwys mewn unrhyw is-gontract—

(i)y mae’r contractiwr yn ymrwymo iddo gydag is-gontractiwr, a

(ii)y mae’r is-gontractiwr yn ymrwymo iddo gyda chontractiwr dilynol (ac yn y blaen);

(b)sicrhau y caniateir i’r awdurdod contractio orfodi’r rhwymedigaethau mewn cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol o dan y contract allanoli gwasanaethau neu o dan is-gontract;

(c)ei gwneud yn ofynnol i’r contractiwr gael cydsyniad yr awdurdod contractio cyn ymrwymo i is-gontract, gyda chydsyniad yn cael ei roi ar yr amod bod cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol sy’n cael yr un effaith neu’r un effaith yn sylweddol â’r cymalau sydd wedi eu cynnwys yn y contract allanoli gwasanaethau yn cael eu cynnwys mewn unrhyw is-gontract;

(d)ei gwneud yn ofynnol i’r contractiwr hysbysu’r awdurdod contractio os yw’n bwriadu ymrwymo i is-gontract nad yw’n cynnwys cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol sy’n cael yr un effaith neu’r un effaith yn sylweddol â’r cymalau sydd wedi eu cynnwys yn y contract allanoli gwasanaethau;

(e)ei gwneud yn ofynnol i’r contractiwr fonitro i ba raddau y mae unrhyw rwymedigaethau mewn cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol yn cael eu gweithredu pan fo’r contractiwr wedi ymrwymo i is-gontract gydag unrhyw weithredwr economaidd arall.