Rhaid i’r cod allanoli gwasanaethau cyhoeddus a’r gweithlu gynnwys cymalau contract enghreifftiol (“cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol”) sydd, yn benodol—
(a)wedi eu cynllunio i sicrhau y bydd aelodau o staff a gyflogir gan awdurdodau contractio i ddarparu’r gwasanaethau, neu gyflawni’r swyddogaethau, sydd i’w hallanoli yn cael eu cyflogi, os ydynt yn dymuno, gan y person sy’n darparu’r gwasanaethau hynny, neu sy’n cyflawni’r swyddogaethau hynny, pan gânt eu hallanoli (“staff sy’n trosglwyddo”);
(b)wedi eu cynllunio i ddiogelu telerau ac amodau cyflogaeth a threfniadau pensiwn staff sy’n trosglwyddo;
(c)wedi eu cynllunio i sicrhau nad yw telerau ac amodau aelodau eraill o staff a gyflogir gan y person sy’n darparu’r gwasanaethau, neu sy’n cyflawni’r swyddogaethau, sy’n ymwneud â darparu’r gwasanaethau hynny, neu gyflawni’r swyddogaethau hynny, yn llai ffafriol ar y cyfan na thelerau ac amodau’r staff sy’n trosglwyddo, a bod trefniadau pensiwn yr aelodau eraill o staff hynny yn rhesymol;
(d)yn gwneud darpariaeth atodol i’r materion y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) i (c).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 33 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)
I2A. 33 mewn grym ar 21.3.2025 gan O.S. 2025/338, ergl. 2(j)