Rhagolygol
(1)Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad oddi wrth awdurdod contractio o dan adran 29(1), rhaid iddynt—
(a)cyhoeddi crynodeb o’r hysbysiad, a
(b)ystyried a ydynt yn fodlon ar y rhesymau a roddwyd ynddo.
(2)Wrth ystyried a ydynt yn fodlon ar y rhesymau, caiff Gweinidogion Cymru—
(a)ymgynghori â’r awdurdod;
(b)drwy hysbysiad ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod ddarparu unrhyw ddogfennau neu wybodaeth arall sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru at ddibenion is-adran (1) ar unrhyw ffurf neu mewn unrhyw fodd a bennir yn yr hysbysiad;
(c)darparu copi o’r hysbysiad o dan adran 29(1), ac unrhyw ddogfennau eraill neu wybodaeth arall a geir o dan baragraff (b), i is-grŵp caffael cyhoeddus yr CPG (gweler adran 9);
(d)ymgynghori ag is-grŵp caffael cyhoeddus yr CPG.
(3)Os yw Gweinidogion Cymru yn fodlon, ar ôl ystyried y rhesymau o dan is-adran (1), rhaid iddynt gyhoeddi crynodeb o’r rhesymau pam eu bod yn fodlon.
(4)Os nad yw Gweinidogion Cymru yn fodlon, ar ôl ystyried y rhesymau o dan is-adran (1), cânt roi cyfarwyddyd i’r awdurdod contractio i gymryd pob cam rhesymol i—
(a)cynnwys cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol yn y contract adeiladu mawr,
(b)rhoi prosesau ar waith i sicrhau bod rhwymedigaethau mewn cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol yn cael eu gweithredu, neu
(c)rhoi prosesau ar waith i sicrhau bod rhwymedigaethau mewn cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol yn cael eu gweithredu pan fo’r contract yn cael ei is-gontractio.
(5)Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (4), rhaid iddynt—
(a)hysbysu is-grŵp caffael cyhoeddus yr CPG eu bod wedi rhoi’r cyfarwyddyd, a
(b)cyhoeddi’r cyfarwyddyd.
(6)Pan na fo Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (4) er nad ydynt yn fodlon, rhaid iddynt—
(a)hysbysu is-grŵp caffael cyhoeddus yr CPG nad ydynt wedi rhoi cyfarwyddyd, a
(b)cyhoeddi crynodeb o—
(i)y rhesymau pam nad ydynt yn fodlon, a
(ii)y rhesymau pam nad ydynt yn rhoi cyfarwyddyd er nad ydynt yn fodlon.
(7)Rhaid i Weinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau o dan is-adrannau (2)(a) neu (b) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
(8)Rhaid i awdurdod contractio ddarparu unrhyw ddogfennau neu wybodaeth arall y mae’n ofynnol iddo eu darparu neu ei darparu o dan is-adran (2)(b) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
(9)Nid oes dim yn yr adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi gwybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried, ar ôl ymgynghori â’r awdurdod contractio priodol, y byddai’n esempt rhag cael ei datgelu pe bai’n destun cais am wybodaeth o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (p. 36).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)