RHAN 3CAFFAEL CYHOEDDUS CYMDEITHASOL GYFRIFOL
PENNOD 2DYLETSWYDD CAFFAEL CYMDEITHASOL GYFRIFOL
Cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol
27Cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol mewn contractau adeiladu mawr
(1)
Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi cymalau enghreifftiol ar gyfer contractau adeiladu mawr (“cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol”) sydd wedi eu cynllunio i sicrhau’r gwelliannau o ran llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol a restrir o dan bob categori yn y Tabl yn is-adran (2).
(2)
Y categorïau a’r gwelliannau yw—
Categori | Gwelliannau |
|---|---|
Taliadau | Sicrhau a gorfodi taliadau prydlon. |
Cyflogaeth | Darparu cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc, pobl hŷn, pobl ddi-waith hirdymor, pobl ag anableddau neu bobl a all fel arall fod o dan anfantais (er enghraifft oherwydd eu hil, eu crefydd neu eu cred, eu rhyw, eu hunaniaeth rhywedd neu eu cyfeiriadedd rhywiol). |
Cydymffurfedd | Sicrhau cydymffurfedd â rhwymedigaethau cyfreithiol mewn perthynas â hawliau cyflogaeth (gan gynnwys yr isafswm cyflog a chyflog byw), iechyd a diogelwch, a chynrychiolaeth undebau llafur. |
Hyfforddiant | Darparu hyfforddiant priodol i weithwyr. |
Is-gontractio | Darparu cyfleoedd i fusnesau bach a chanolig a sefydliadau gwirfoddol i gyflawni gweithiau, cyflenwi cynhyrchion neu ddarparu gwasanaethau. |
Yr amgylchedd | Gwneud rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, defnyddio deunyddiau cynaliadwy, cydnerthedd rhag effaith newid hinsawdd, lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, a gwella’r amgylchedd naturiol a bioamrywiaeth yn ofynnol. |
(3)
Mae cyfeiriad yn y Rhan hon at awdurdod contractio yn cynnwys cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol mewn contractau adeiladu mawr—
(a)
yn gyfeiriad at yr holl gymalau contract enghreifftiol a gyhoeddir mewn cysylltiad â phob un o’r gwelliannau o dan y categorïau yn is-adran (2), a
(b)
yn golygu ymgorffori cymalau sydd â’r un effaith neu’r un effaith yn sylweddol â’r cymalau contract enghreifftiol cyhoeddedig.
(4)
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio is-adran (2)—
(a)
er mwyn ychwanegu categori, a gwelliannau o dan y categori hwnnw, at y Tabl;
(b)
er mwyn dileu categori, a gwelliannau o dan y categori hwnnw, o’r Tabl;
(c)
er mwyn diwygio categori neu welliannau o dan gategori yn y Tabl.