- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, Adran 27.![]()
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi cymalau enghreifftiol ar gyfer contractau adeiladu mawr (“cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol”) sydd wedi eu cynllunio i sicrhau’r gwelliannau o ran llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol a restrir o dan bob categori yn y Tabl yn is-adran (2).
(2)Y categorïau a’r gwelliannau yw—
| Categori | Gwelliannau |
|---|---|
| Taliadau | Sicrhau a gorfodi taliadau prydlon. |
| Cyflogaeth | Darparu cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc, pobl hŷn, pobl ddi-waith hirdymor, pobl ag anableddau neu bobl a all fel arall fod o dan anfantais (er enghraifft oherwydd eu hil, eu crefydd neu eu cred, eu rhyw, eu hunaniaeth rhywedd neu eu cyfeiriadedd rhywiol). |
| Cydymffurfedd | Sicrhau cydymffurfedd â rhwymedigaethau cyfreithiol mewn perthynas â hawliau cyflogaeth (gan gynnwys yr isafswm cyflog a chyflog byw), iechyd a diogelwch, a chynrychiolaeth undebau llafur. |
| Hyfforddiant | Darparu hyfforddiant priodol i weithwyr. |
| Is-gontractio | Darparu cyfleoedd i fusnesau bach a chanolig a sefydliadau gwirfoddol i gyflawni gweithiau, cyflenwi cynhyrchion neu ddarparu gwasanaethau. |
| Yr amgylchedd | Gwneud rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, defnyddio deunyddiau cynaliadwy, cydnerthedd rhag effaith newid hinsawdd, lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, a gwella’r amgylchedd naturiol a bioamrywiaeth yn ofynnol. |
(3)Mae cyfeiriad yn y Rhan hon at awdurdod contractio yn cynnwys cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol mewn contractau adeiladu mawr—
(a)yn gyfeiriad at yr holl gymalau contract enghreifftiol a gyhoeddir mewn cysylltiad â phob un o’r gwelliannau o dan y categorïau yn is-adran (2), a
(b)yn golygu ymgorffori cymalau sydd â’r un effaith neu’r un effaith yn sylweddol â’r cymalau contract enghreifftiol cyhoeddedig.
(4)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio is-adran (2)—
(a)er mwyn ychwanegu categori, a gwelliannau o dan y categori hwnnw, at y Tabl;
(b)er mwyn dileu categori, a gwelliannau o dan y categori hwnnw, o’r Tabl;
(c)er mwyn diwygio categori neu welliannau o dan gategori yn y Tabl.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)
I2A. 27 mewn grym ar 21.3.2025 gan O.S. 2025/338, ergl. 2(h)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: