RHAN 3LL+CCAFFAEL CYHOEDDUS CYMDEITHASOL GYFRIFOL

PENNOD 2LL+CDYLETSWYDD CAFFAEL CYMDEITHASOL GYFRIFOL

Y ddyletswydd caffael cymdeithasol gyfrifolLL+C

25Dyletswydd caffael cymdeithasol gyfrifol: contractau adeiladu mawrLL+C

(1)Y camau gweithredu penodol a grybwyllir yn adran 24(5)(b) yw—

(a)rhoi sylw i gymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol enghreifftiol a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 27;

(b)wrth lunio a chynnal gweithdrefnau cyn dyfarnu’r contract adeiladu mawr, ystyried pa un a ddylai’r contract gynnwys cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol;

(c)wrth negodi a dyfarnu’r contract, cymryd pob cam rhesymol—

(i)i gynnwys unrhyw gymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol y mae’n ystyried y dylent gael eu cynnwys;

(ii)i sicrhau bod modd gweithredu cymalau sydd wedi eu cynnwys yn y contract;

(d)wrth reoli’r contract, cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod unrhyw gymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol sydd wedi eu cynnwys yn y contract yn cael eu gweithredu;

(gweler adrannau 27 i 31 am ddarpariaeth bellach ynghylch ystyr “cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol” a chymhwyso’r cymalau hynny i gontractau adeiladu mawr).

(2)Yn y Rhan hon, ystyr “contract adeiladu mawr” yw contract cyhoeddus [F1sy’n gontract gweithiau sydd â gwerth amcangyfrifedig o £2,000,000 neu fwy. ]

(3)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r adran hon drwy reoliadau i addasu ystyr contract adeiladu mawr.

Diwygiadau Testunol

F1Geiriau yn a. 25(2) wedi eu hamnewid (24.2.2025) gan Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024 (O.S. 2024/782), rhlau. 1(2), 46(2) (ynghyd â rhl. 2); O.S. 2024/716, Atod. (fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2024/959, rhlau. 1(2), 2(7)(a))

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

I2A. 25(2)(3) mewn grym ar 21.3.2025 gan O.S. 2025/338, ergl. 2(f)