RHAN 3CAFFAEL CYHOEDDUS CYMDEITHASOL GYFRIFOL

PENNOD 2DYLETSWYDD CAFFAEL CYMDEITHASOL GYFRIFOL

Y ddyletswydd caffael cymdeithasol gyfrifol

25Dyletswydd caffael cymdeithasol gyfrifol: contractau adeiladu mawr

(1)

Y camau gweithredu penodol a grybwyllir yn adran 24(5)(b) yw—

(a)

rhoi sylw i gymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol enghreifftiol a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 27;

(b)

wrth lunio a chynnal gweithdrefnau cyn dyfarnu’r contract adeiladu mawr, ystyried pa un a ddylai’r contract gynnwys cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol;

(c)

wrth negodi a dyfarnu’r contract, cymryd pob cam rhesymol—

(i)

i gynnwys unrhyw gymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol y mae’n ystyried y dylent gael eu cynnwys;

(ii)

i sicrhau bod modd gweithredu cymalau sydd wedi eu cynnwys yn y contract;

(d)

wrth reoli’r contract, cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod unrhyw gymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol sydd wedi eu cynnwys yn y contract yn cael eu gweithredu;

(gweler adrannau 27 i 31 am ddarpariaeth bellach ynghylch ystyr “cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol” a chymhwyso’r cymalau hynny i gontractau adeiladu mawr).

(2)

Yn y Rhan hon, ystyr “contract adeiladu mawr” yw contract cyhoeddus F1sy’n gontract gweithiau sydd â gwerth amcangyfrifedig o £2,000,000 neu fwy.

(3)

Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r adran hon drwy reoliadau i addasu ystyr contract adeiladu mawr.