RHAN 3CAFFAEL CYHOEDDUS CYMDEITHASOL GYFRIFOL

PENNOD 2DYLETSWYDD CAFFAEL CYMDEITHASOL GYFRIFOL

Y ddyletswydd caffael cymdeithasol gyfrifol

24Dyletswydd caffael cymdeithasol gyfrifol

(1)

Rhaid i awdurdod contractio geisio gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ei ardal drwy gynnal caffael cyhoeddus mewn ffordd gymdeithasol gyfrifol.

(2)

Mae awdurdod contractio yn cynnal caffael cyhoeddus mewn ffordd gymdeithasol gyfrifol drwy gymryd camau gweithredu, yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, sydd â’r nod o gyfrannu at gyflawni’r nodau llesiant a restrir yn adran 4 o DLlCD 2015 (y cyfeirir atynt at ddibenion y Rhan hon fel y “nodau llesiant”).

(3)

Rhaid i awdurdod contractio osod a chyhoeddi amcanion (“amcanion caffael cymdeithasol gyfrifol”) sydd wedi eu cynllunio i sicrhau’r cyfraniad mwyaf posibl ganddo at gyflawni’r nodau llesiant.

(4)

Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch diwygio ac adolygu amcanion caffael cymdeithasol gyfrifol.

(5)

Wrth gymryd camau gweithredu sydd â’r nod o gyfrannu at gyflawni’r nodau llesiant, rhaid i awdurdod contractio—

(a)

cymryd pob cam rhesymol i gyflawni ei amcanion caffael cymdeithasol gyfrifol pan fo’n cynnal caffael cyhoeddus mewn perthynas ag unrhyw gontract rhagnodedig;

(b)

cymryd y camau gweithredu penodol y cyfeirir atynt yn adran 25 pan fo’n cynnal caffael cyhoeddus mewn perthynas â chontract adeiladu mawr;

(c)

cymryd y camau gweithredu penodol y cyfeirir atynt yn adran 26 pan fo’n cynnal caffael cyhoeddus mewn perthynas â chontract allanoli gwasanaethau.

(6)

Er gwaethaf is-adran (1), ni chaniateir i awdurdod contractio gynnwys darpariaethau mewn contract rhagnodedig—

(a)

nad ydynt yn gymesur (gan ystyried gwerth amcangyfrifedig y contract);

(b)

a fyddai’n gwrthdaro ag unrhyw ddeddfiad arall neu unrhyw reol gyfreithiol sy’n ymwneud â chaffael cyhoeddus.

(7)

At ddibenion is-adran (2), mae i’r “egwyddor datblygu cynaliadwy” yr ystyr a roddir gan adran 5 o DLlCD 2015.

(8)

Yn y Rhan hon, ystyr “contract rhagnodedig” yw—

(a)

contract adeiladu mawr (gweler adran 25),

(b)

contract allanoli gwasanaethau (gweler adran 26), ac

(c)

unrhyw gontract cyhoeddus arall o ddisgrifiad a ragnodir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.