RHAN 3LL+CCAFFAEL CYHOEDDUS CYMDEITHASOL GYFRIFOL

PENNOD 1LL+CCYFLWYNIAD

Cysyniadau allweddolLL+C

23Caffael cyhoeddusLL+C

At ddibenion y Rhan hon, mae cyfeiriadau at “caffael cyhoeddus” yn gyfeiriadau at awdurdod contractio—

(a)yn cynllunio ac yn cyflawni unrhyw weithdrefn cyn dyfarnu contract cyhoeddus gan gynnwys, yn benodol, wahodd ceisiadau a dethol gweithredwyr economaidd;

(b)yn drafftio, yn negodi ac yn dyfarnu contract cyhoeddus;

(c)yn rheoli contract cyhoeddus ar ôl ei ddyfarnu;

ac mae cyfeiriadau at “caffael” i’w dehongli yn unol â hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

I2A. 23 mewn grym ar 21.3.2025 gan O.S. 2025/338, ergl. 2(d)