(1)Yn y Rhan hon, ystyr “awdurdod contractio” yw corff, deiliad swydd neu berson arall a restrir yn Atodlen 1.
(2)Ond nid yw Gweinidogion Cymru yn awdurdod contractio at ddibenion adrannau 29, 30, 35, 36 a 41.
(3)Yn y Rhan hon, ardal awdurdod contractio yw’r ardal y mae’r awdurdod yn arfer ei swyddogaethau ynddi yn bennaf, gan ddiystyru unrhyw ardaloedd y tu allan i Gymru.
(4)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r adran hon, ac Atodlen 1, er mwyn addasu ystyr awdurdod contractio.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)
I2A. 22(1)(3)(4) mewn grym ar 21.3.2025 gan O.S. 2025/338, ergl. 2(c)