RHAN 1Y CYNGOR PARTNERIAETH GYMDEITHASOL

Dehongli

14Dehongli Rhan 1

Yn y Rhan hon—

mae i “cyflogwr” yr un ystyr ag “employer” yn Neddf Hawliau Cyflogaeth 1996 (p. 18);

ystyr “cyflogwr addysg bellach” (“further education employer”) yw cyflogwr yn y sector addysg bellach o fewn ystyr adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13);

ystyr “cyflogwr addysg uwch” (“higher education employer”) yw cyflogwr yn y sector addysg uwch o fewn ystyr adran 91(5) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992;

ystyr “cyflogwr corff cyhoeddus” (“public body employer”) yw cyflogwr sy’n un o’r personau a restrir fel “corff cyhoeddus” yn adran 6(1) o DLlCD 2015, heblaw am Weinidogion Cymru;

ystyr “cyflogwr sector preifat” (“private sector employer”) yw cyflogwr nad yw—

(a)

yn gorff, yn swydd neu’n ddeiliad swydd y mae ei swyddogaethau’n gyfan gwbl neu’n bennaf o natur gyhoeddus,

(b)

yn gyflogwr sefydliad gwirfoddol,

(c)

yn gyflogwr addysg bellach, na

(d)

yn gyflogwr addysg uwch;

ystyr “cyflogwr sefydliad gwirfoddol” (“voluntary organisation employer”) yw cyflogwr sy’n sefydliad gwirfoddol perthnasol o fewn ystyr “relevant voluntary organisations” yn adran 74(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32);

ystyr “un o Ddirprwy Weinidogion Cymru” (“Deputy Welsh Minister”) yw person sy’n dal swydd o dan adran 50 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).