xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rhagolygol

(fel y’i cyflwynir gan adran 24(4))

ATODLEN 2LL+CAMCANION CAFFAEL CYMDEITHASOL GYFRIFOL

1LL+COs caiff y nodau llesiant eu diwygio, rhaid i awdurdod contractio adolygu ei amcanion caffael cymdeithasol gyfrifol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

2LL+COs yw awdurdod contractio, wrth gynnal adolygiad o dan baragraff 1, yn penderfynu nad yw un neu ragor o’i amcanion caffael cymdeithasol gyfrifol yn briodol mwyach, rhaid iddo ddiwygio’r amcan neu’r amcanion o dan sylw.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 2 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

3LL+CCaiff awdurdod contractio adolygu a diwygio ei amcanion caffael cymdeithasol gyfrifol ar unrhyw adeg arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 2 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)

4LL+CPan fo awdurdod contractio yn diwygio ei amcanion caffael cymdeithasol gyfrifol o dan baragraff 2 neu 3, rhaid iddo eu cyhoeddi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 2 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(1)