xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023

2023 dsc 1

Deddf gan Senedd Cymru i wneud darpariaeth ynghylch datblygu cynaliadwy yn unol ag egwyddor partneriaeth gymdeithasol; ynghylch caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol; i sefydlu Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cymru, ac at ddibenion cysylltiedig.

[24 Mai 2023]

Gan ei fod wedi ei basio gan Senedd Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Fawrhydi, deddfir fel a ganlyn:

RHAN 1Y CYNGOR PARTNERIAETH GYMDEITHASOL

Ei sefydlu a’i ddiben

1Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cymru

(1)Sefydlir Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cymru (“CPG”).

(2)At ddibenion gwella llesiant economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol (gan gynnwys drwy wella gwasanaethau cyhoeddus) yng Nghymru, caiff yr CPG ddarparu gwybodaeth a chyngor i Weinidogion Cymru mewn perthynas ag—

(a)y dyletswyddau partneriaeth gymdeithasol y mae’r Ddeddf hon yn eu gosod ar gyrff cyhoeddus ac ar Weinidogion Cymru (gweler Rhan 2);

(b)ymgyrraedd at nod llesiant “Cymru lewyrchus” gan gyrff cyhoeddus wrth ymgymryd â datblygu cynaliadwy o dan DLlCD 2015 (gweler Rhan 2);

(c)y swyddogaethau a roddir i awdurdodau contractio a Gweinidogion Cymru o dan Ran 3 (caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol).

(3)Caiff yr CPG ddarparu gwybodaeth neu gyngor ar fater y cyfeirir ato yn is-adran (2) ohono’i hun neu mewn ymateb i gais a wneir gan Weinidogion Cymru.

(4)Pan fo’r CPG yn cael cais gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (3), rhaid i’r CPG ddarparu’r wybodaeth neu’r cyngor cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

2Aelodaeth Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cymru

(1)Mae’r CPG i gynnwys yr aelodau a ganlyn—

(a)aelodau o Lywodraeth Cymru (“aelodau Llywodraeth Cymru”),

(b)9 cynrychiolydd cyflogwyr yng Nghymru (“cynrychiolwyr cyflogwyr”), ac

(c)9 cynrychiolydd gweithwyr yng Nghymru (“cynrychiolwyr gweithwyr”).

(2)Mae aelodau Llywodraeth Cymru i gynnwys y Prif Weinidog a, phan wahoddir hwy gan y Prif Weinidog o bryd i’w gilydd—

(a)unrhyw un neu ragor o Weinidogion eraill Cymru;

(b)unrhyw un neu ragor o Ddirprwy Weinidogion Cymru;

(c)y Cwnsler Cyffredinol;

(d)unrhyw aelod o staff Llywodraeth Cymru.

(3)Rhaid i’r Prif Weinidog benodi pob cynrychiolydd cyflogwyr a phob cynrychiolydd gweithwyr (gyda’i gilydd, “aelodau penodedig”).

(4)Rhaid i’r Prif Weinidog gymryd pob cam rhesymol i benodi’r 9 cynrychiolydd cyflogwyr cychwynnol a’r 9 cynrychiolydd gweithwyr cychwynnol o fewn 6 mis gan ddechrau â thrannoeth y diwrnod y daw’r is-adran hon i rym.

(5)Yn y Ddeddf hon, mae cyfeiriad at “Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cymru” neu “CPG” yn gyfeiriad at aelodau’r CPG yn gweithredu ar y cyd; yn unol â hynny, mae swyddogaeth a fynegir fel un o swyddogaethau’r CPG yn swyddogaeth i bob aelod na chaniateir ei harfer ond ar y cyd â’r aelodau eraill.

3Cynrychiolwyr cyflogwyr

Mae’r cynrychiolwyr cyflogwyr i gynnwys unigolion y mae’r Prif Weinidog yn ystyried eu bod yn cynrychioli cyflogwyr cyrff cyhoeddus, cyflogwyr sector preifat, cyflogwyr sefydliadau gwirfoddol, cyflogwyr addysg uwch a chyflogwyr addysg bellach.

4Cynrychiolwyr gweithwyr

Mae’r cynrychiolwyr gweithwyr i gynnwys unigolion y mae’r Prif Weinidog yn ystyried eu bod yn cynrychioli staff sy’n gweithio i bob categori o gyflogwr y cyfeirir ato yn adran 3.

5Enwebu aelodau penodedig

(1)Cyn penodi cynrychiolwyr cyflogwyr, rhaid i’r Prif Weinidog geisio enwebiadau gan bersonau neu gyrff y mae’r Prif Weinidog yn ystyried eu bod yn cynrychioli barn y categorïau o gyflogwr y cyfeirir atynt yn adran 3.

(2)Cyn penodi cynrychiolwyr gweithwyr, rhaid i’r Prif Weinidog geisio enwebiadau gan y corff sy’n cynrychioli undebau llafur yng Nghymru a adnabyddir fel Wales TUC Cymru.

(3)Wrth benodi cynrychiolwyr cyflogwyr, rhaid i’r Prif Weinidog roi sylw i unrhyw enwebiadau a wnaed o dan is-adran (1).

(4)Wrth benodi cynrychiolwyr gweithwyr, ni chaiff y Prif Weinidog ond penodi unigolion sydd wedi eu henwebu o dan is-adran (2).

6Cyfnod penodiadau

(1)Penodir aelodau penodedig am 3 blynedd oni bai—

(a)bod y Prif Weinidog yn terfynu’r penodiad drwy hysbysu’r aelod yn ysgrifenedig, neu

(b)bod yr aelod penodedig yn ymddiswyddo drwy hysbysu’r Prif Weinidog yn ysgrifenedig.

(2)Rhaid i’r Prif Weinidog lenwi unrhyw swyddi gwag cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Ei weithredu a’i weinyddu

7Cyfarfodydd, gweithdrefnau a chymorth gweinyddol

(1)Rhaid i’r CPG gyfarfod o leiaf 3 gwaith ym mhob cyfnod o 12 mis sy’n dechrau drannoeth y diwrnod y gwnaeth y Prif Weinidog yr holl benodiadau cychwynnol a grybwyllir yn adran 2.

(2)Pan fo hynny’n bosibl, rhaid i’r Prif Weinidog gadeirio cyfarfodydd yr CPG.

(3)Pan na fo’n bosibl i’r Prif Weinidog gadeirio cyfarfod, rhaid i un o Weinidogion Cymru neu un o Ddirprwy Weinidogion Cymru a enwebwyd gan y Prif Weinidog gadeirio’r cyfarfod.

(4)O fewn 6 mis gan ddechrau â thrannoeth y diwrnod y daw’r is-adran hon i rym, rhaid i Weinidogion Cymru bennu a chyhoeddi—

(a)y cworwm ar gyfer cyfarfodydd yr CPG, a

(b)y gweithdrefnau i’w dilyn gan yr CPG, i’r graddau nad ydynt wedi eu pennu yn y Ddeddf hon.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl ymgynghori â’r CPG, ddiwygio unrhyw beth a bennir o dan is-adran (4) a rhaid iddynt gyhoeddi unrhyw ddiwygiadau o’r fath.

(6)Rhaid i weithdrefnau’r CPG gynnwys—

(a)y gweithdrefnau ar gyfer trefnu cyfarfodydd gan gynnwys y rhybudd sydd i’w roi i’r mynychwyr a sut y caiff mynychwyr ychwanegu eitemau at agenda cyfarfodydd;

(b)y weithdrefn ar gyfer datrys anghytuno rhwng aelodau mewn perthynas ag arfer swyddogaethau’r CPG;

(c)y gweithdrefnau ar gyfer darparu gwybodaeth a chyngor i Weinidogion Cymru.

(7)Rhaid i Weinidogion Cymru beri bod cymorth gweinyddol ar gael i’r CPG.

8Is-grwpiau

(1)Caiff yr CPG sefydlu is-grwpiau.

(2)Caiff is-grŵp—

(a)cyflawni unrhyw swyddogaeth a ddirprwyir iddo gan yr CPG;

(b)cynorthwyo’r CPG i gyflawni ei swyddogaethau mewn unrhyw ffyrdd a bennir gan yr CPG.

(3)O ran is-grŵp—

(a)rhaid i aelod o’r CPG ei gadeirio, a

(b)caiff gynnwys aelodau eraill o’r CPG ac unigolion eraill.

9Is-grŵp caffael cyhoeddus

(1)Rhaid i’r CPG gymryd pob cam rhesymol i sefydlu is-grŵp caffael cyhoeddus o fewn 6 mis gan ddechrau drannoeth y diwrnod y daw’r is-adran hon i rym.

(2)O fewn 6 mis gan ddechrau â thrannoeth y diwrnod y daw’r is-adran hon i rym, rhaid i Weinidogion Cymru bennu a chyhoeddi—

(a)y cworwm ar gyfer cyfarfodydd yr is-grŵp caffael cyhoeddus, a

(b)y gweithdrefnau i’w dilyn gan yr is-grŵp caffael cyhoeddus, i’r graddau nad ydynt wedi eu pennu yn y Ddeddf hon.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio unrhyw beth a bennir o dan is-adran (2) a rhaid iddynt gyhoeddi unrhyw ddiwygiadau o’r fath.

(4)Rhaid i weithdrefnau’r is-grŵp caffael cyhoeddus gynnwys—

(a)y gweithdrefnau ar gyfer trefnu cyfarfodydd gan gynnwys y rhybudd sydd i’w roi i’r mynychwyr a sut y caiff mynychwyr ychwanegu eitemau at agenda cyfarfodydd;

(b)y weithdrefn ar gyfer datrys anghytuno rhwng aelodau mewn perthynas ag arfer swyddogaethau’r is-grŵp;

(c)y gweithdrefnau ar gyfer darparu gwybodaeth a chyngor i’r CPG a Gweinidogion Cymru.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau ynghylch cyfansoddiad yr is-grŵp caffael cyhoeddus (gan gynnwys at ddiben sicrhau aelodaeth sydd â chynrychiolaeth briodol), a rhaid i’r CPG roi sylw i’r canllawiau hynny.

10Darparu gwybodaeth a chyngor i’r CPG gan yr is-grŵp caffael cyhoeddus

(1)Caiff yr is-grŵp caffael cyhoeddus ddarparu gwybodaeth a chyngor i’r CPG ynghylch y swyddogaethau a roddir i awdurdodau contractio a Gweinidogion Cymru o dan Ran 3 (caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol).

(2)Caiff yr CPG—

(a)darparu i Weinidogion Cymru wybodaeth neu gyngor a gafwyd oddi wrth yr is-grŵp caffael cyhoeddus, neu

(b)diwygio gwybodaeth neu gyngor o’r fath a darparu’r wybodaeth neu’r cyngor fel y’i diwygiwyd i Weinidogion Cymru.

(3)Os yw Gweinidogion Cymru yn gofyn am wybodaeth neu gyngor gan yr CPG ynghylch mater y cyfeirir ato yn is-adran (1), rhaid i’r CPG—

(a)ceisio’r wybodaeth honno neu’r cyngor hwnnw gan yr is-grŵp caffael cyhoeddus, a

(b)darparu’r wybodaeth neu’r cyngor, neu ddiwygio’r wybodaeth neu’r cyngor a’i darparu neu ei ddarparu fel y’i diwygiwyd, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(4)Os yw Gweinidogion Cymru yn ymgynghori â’r is-grŵp caffael cyhoeddus o dan adran 30(2)(d) neu 36(2)(d), rhaid i’r is-grŵp caffael ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth a chyngor y mae’n ystyried eu bod yn briodol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(5)Os nad oes is-grŵp caffael cyhoeddus wedi ei sefydlu eto o dan adran 9(1), caiff yr CPG serch hynny ddarparu gwybodaeth a chyngor i Weinidogion Cymru ynghylch mater y cyfeirir ato yn is-adran (1).

11Cyfarfod o bell

Caiff yr CPG neu is-grŵp gynnal cyfarfod drwy gyfrwng unrhyw gyfarpar neu gyfleuster arall sy’n galluogi personau nad ydynt yn yr un lle i siarad â’i gilydd ac i gael eu clywed gan ei gilydd (pa un a yw’r cyfarpar neu’r cyfleuster yn galluogi’r personau hynny i weld ei gilydd ac i gael eu gweld gan ei gilydd ai peidio).

12Treuliau

Caiff Gweinidogion Cymru dalu treuliau—

(a)cynrychiolydd cyflogwyr;

(b)cynrychiolydd gweithwyr;

(c)aelod o is-grŵp.

13Pwerau atodol

Caiff yr CPG wneud unrhyw beth y bwriedir iddo hwyluso arfer ei swyddogaethau neu swyddogaethau is-grŵp, neu sy’n ffafriol i hynny neu’n gysylltiedig â hynny.

Dehongli

14Dehongli Rhan 1

Yn y Rhan hon—

RHAN 2PARTNERIAETH GYMDEITHASOL A DATBLYGU CYNALIADWY

15Trosolwg o’r Rhan a dehongli

(1)At ddibenion gwella llesiant economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol (gan gynnwys drwy wella gwasanaethau cyhoeddus) yng Nghymru, mae’r Rhan hon—

(a)yn gosod dyletswyddau partneriaeth gymdeithasol newydd fel rhan o’r ddyletswydd llesiant yn adran 3(1) o DLlCD 2015;

(b)yn diwygio’r nod llesiant “Cymru lewyrchus” y mae cyrff cyhoeddus i ymgyrraedd ato wrth ymgymryd â datblygu cynaliadwy o dan DLlCD 2015 fel bod sicrhau gwaith teg yn rhan o’r disgrifiad o’r nod.

(2)At ddibenion y Rhan hon, mae i “datblygu cynaliadwy” yr ystyr a roddir gan adran 2 o DLlCD 2015.

(3)Yn y Rhan hon, ystyr “corff cyhoeddus” yw person a restrir fel “corff cyhoeddus” yn adran 6(1) o DLlCD 2015, ond at ddibenion adrannau 16 a 18 nid yw’n cynnwys Gweinidogion Cymru.

16Dyletswydd partneriaeth gymdeithasol

(1)Wrth ymgymryd â datblygu cynaliadwy, rhaid i gorff cyhoeddus, i’r graddau y bo’n rhesymol, geisio consensws neu gyfaddawd â’i undebau llafur cydnabyddedig neu (pan nad oes undeb llafur cydnabyddedig) gynrychiolwyr eraill ei staff ar—

(a)yr amcanion llesiant sydd i’w gosod o dan adran 3(2)(a) o DLlCD 2015;

(b)gwneud penderfyniadau o natur strategol ynghylch y camau rhesymol y mae’r corff yn eu cymryd (wrth arfer ei swyddogaethau) i gyflawni’r amcanion hynny o dan adran 3(2)(b) o DLlCD 2015.

(2)At ddibenion is-adran (1), er mwyn ceisio consensws neu gyfaddawd rhaid i gorff cyhoeddus gynnwys ei undebau llafur cydnabyddedig neu gynrychiolwyr eraill ei staff yn y broses o bennu amcanion neu wneud penderfyniadau, drwy (yn benodol)—

(a)ymgynghori â hwy yng nghyfnod ffurfiannol y broses, a

(b)eu cynnwys fel arall drwy gydol y broses drwy—

(i)darparu gwybodaeth ddigonol i’w galluogi i ystyried yn briodol yr hyn sy’n cael ei gynnig, a

(ii)darparu amser digonol i’w galluogi i ystyried yn ddigonol yr hyn sy’n cael ei gynnig ac ymateb.

(3)Wrth ystyried beth sy’n rhesymol o dan is-adran (1) rhaid i gorff cyhoeddus gymryd i ystyriaeth ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r CPG cyn cyhoeddi’r canllawiau y cyfeirir atynt yn is-adran (3).

17Dyletswydd partneriaeth gymdeithasol: Gweinidogion Cymru

Wrth wneud penderfyniadau o natur strategol ynghylch y camau rhesymol y mae Gweinidogion Cymru yn eu cymryd (wrth arfer eu swyddogaethau) o dan adran 3(2)(b) o DLlCD 2015 (i gyflawni’r amcanion a osodir o dan adran 3(2)(a) o DLlCD 2015), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r CPG.

18Adroddiadau partneriaeth gymdeithasol

(1)Rhaid i gorff cyhoeddus lunio, mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol, adroddiad ynglŷn â’r hyn y mae wedi ei wneud i gydymffurfio â’r ddyletswydd a osodir o dan adran 16.

(2)Rhaid cytuno ar yr adroddiad gydag undebau llafur cydnabyddedig y corff cyhoeddus neu (pan nad oes undeb llafur cydnabyddedig) gynrychiolwyr eraill ei staff, neu rhaid i’r adroddiad gynnwys datganiad yn egluro pam na chytunwyd arno.

(3)Rhaid i’r corff cyhoeddus gyhoeddi’r adroddiad, a’i gyflwyno i’r CPG, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol.

19Adroddiadau partneriaeth gymdeithasol: Gweinidogion Cymru

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio, mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol, adroddiad ynglŷn â’r hyn y maent wedi ei wneud i gydymffurfio â’r ddyletswydd a osodir o dan adran 17.

(2)Rhaid cytuno ar yr adroddiad gyda’r CPG neu rhaid i’r adroddiad gynnwys datganiad yn egluro pam na chytunwyd arno.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol—

(a)cyhoeddi’r adroddiad, a’i gyflwyno i’r CPG;

(b)gosod yr adroddiad gerbron y Senedd.

20Gwaith teg

Yn adran 4 (nodau llesiant) o DLlCD 2015, yn Nhabl 1, yn y disgrifiad o nod “Cymru lewyrchus”, yn lle “waith addas” rhodder “waith teg”.

RHAN 3CAFFAEL CYHOEDDUS CYMDEITHASOL GYFRIFOL

PENNOD 1CYFLWYNIAD

Cysyniadau allweddol

21Contractau cyhoeddus

(1)Yn y Rhan hon, ystyr “contract cyhoeddus” yw contract rhwng un neu ragor o weithredwyr economaidd ac un neu ragor o awdurdodau contractio; ac sy’n gontract sydd â’r nod o gyflawni gweithiau, cyflenwi cynhyrchion neu ddarparu gwasanaethau.

(2)At ddibenion y Rhan hon, mae cytundeb fframwaith i’w drin fel contract cyhoeddus (ac mae cyfeiriadau at “contract cyhoeddus” i’w dehongli yn unol â hynny).

22Awdurdodau contractio

(1)Yn y Rhan hon, ystyr “awdurdod contractio” yw corff, deiliad swydd neu berson arall a restrir yn Atodlen 1.

(2)Ond nid yw Gweinidogion Cymru yn awdurdod contractio at ddibenion adrannau 29, 30, 35, 36 a 41.

(3)Yn y Rhan hon, ardal awdurdod contractio yw’r ardal y mae’r awdurdod yn arfer ei swyddogaethau ynddi yn bennaf, gan ddiystyru unrhyw ardaloedd y tu allan i Gymru.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r adran hon, ac Atodlen 1, er mwyn addasu ystyr awdurdod contractio.

23Caffael cyhoeddus

At ddibenion y Rhan hon, mae cyfeiriadau at “caffael cyhoeddus” yn gyfeiriadau at awdurdod contractio—

(a)yn cynllunio ac yn cyflawni unrhyw weithdrefn cyn dyfarnu contract cyhoeddus gan gynnwys, yn benodol, wahodd ceisiadau a dethol gweithredwyr economaidd;

(b)yn drafftio, yn negodi ac yn dyfarnu contract cyhoeddus;

(c)yn rheoli contract cyhoeddus ar ôl ei ddyfarnu;

ac mae cyfeiriadau at “caffael” i’w dehongli yn unol â hynny.

PENNOD 2DYLETSWYDD CAFFAEL CYMDEITHASOL GYFRIFOL

Y ddyletswydd caffael cymdeithasol gyfrifol

24Dyletswydd caffael cymdeithasol gyfrifol

(1)Rhaid i awdurdod contractio geisio gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ei ardal drwy gynnal caffael cyhoeddus mewn ffordd gymdeithasol gyfrifol.

(2)Mae awdurdod contractio yn cynnal caffael cyhoeddus mewn ffordd gymdeithasol gyfrifol drwy gymryd camau gweithredu, yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, sydd â’r nod o gyfrannu at gyflawni’r nodau llesiant a restrir yn adran 4 o DLlCD 2015 (y cyfeirir atynt at ddibenion y Rhan hon fel y “nodau llesiant”).

(3)Rhaid i awdurdod contractio osod a chyhoeddi amcanion (“amcanion caffael cymdeithasol gyfrifol”) sydd wedi eu cynllunio i sicrhau’r cyfraniad mwyaf posibl ganddo at gyflawni’r nodau llesiant.

(4)Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch diwygio ac adolygu amcanion caffael cymdeithasol gyfrifol.

(5)Wrth gymryd camau gweithredu sydd â’r nod o gyfrannu at gyflawni’r nodau llesiant, rhaid i awdurdod contractio—

(a)cymryd pob cam rhesymol i gyflawni ei amcanion caffael cymdeithasol gyfrifol pan fo’n cynnal caffael cyhoeddus mewn perthynas ag unrhyw gontract rhagnodedig;

(b)cymryd y camau gweithredu penodol y cyfeirir atynt yn adran 25 pan fo’n cynnal caffael cyhoeddus mewn perthynas â chontract adeiladu mawr;

(c)cymryd y camau gweithredu penodol y cyfeirir atynt yn adran 26 pan fo’n cynnal caffael cyhoeddus mewn perthynas â chontract allanoli gwasanaethau.

(6)Er gwaethaf is-adran (1), ni chaniateir i awdurdod contractio gynnwys darpariaethau mewn contract rhagnodedig—

(a)nad ydynt yn gymesur (gan ystyried gwerth amcangyfrifedig y contract);

(b)a fyddai’n gwrthdaro ag unrhyw ddeddfiad arall neu unrhyw reol gyfreithiol sy’n ymwneud â chaffael cyhoeddus.

(7)At ddibenion is-adran (2), mae i’r “egwyddor datblygu cynaliadwy” yr ystyr a roddir gan adran 5 o DLlCD 2015.

(8)Yn y Rhan hon, ystyr “contract rhagnodedig” yw—

(a)contract adeiladu mawr (gweler adran 25),

(b)contract allanoli gwasanaethau (gweler adran 26), ac

(c)unrhyw gontract cyhoeddus arall o ddisgrifiad a ragnodir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.

25Dyletswydd caffael cymdeithasol gyfrifol: contractau adeiladu mawr

(1)Y camau gweithredu penodol a grybwyllir yn adran 24(5)(b) yw—

(a)rhoi sylw i gymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol enghreifftiol a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 27;

(b)wrth lunio a chynnal gweithdrefnau cyn dyfarnu’r contract adeiladu mawr, ystyried pa un a ddylai’r contract gynnwys cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol;

(c)wrth negodi a dyfarnu’r contract, cymryd pob cam rhesymol—

(i)i gynnwys unrhyw gymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol y mae’n ystyried y dylent gael eu cynnwys;

(ii)i sicrhau bod modd gweithredu cymalau sydd wedi eu cynnwys yn y contract;

(d)wrth reoli’r contract, cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod unrhyw gymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol sydd wedi eu cynnwys yn y contract yn cael eu gweithredu;

(gweler adrannau 27 i 31 am ddarpariaeth bellach ynghylch ystyr “cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol” a chymhwyso’r cymalau hynny i gontractau adeiladu mawr).

(2)Yn y Rhan hon, ystyr “contract adeiladu mawr” yw contract cyhoeddus sydd â gwerth amcangyfrifedig o £2,000,000 neu fwy, sydd—

(a)yn gontract gweithiau cyhoeddus,

(b)yn gontract gweithiau, neu

(c)yn gontract consesiwn gweithiau.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r adran hon drwy reoliadau i addasu ystyr contract adeiladu mawr.

26Dyletswydd caffael cymdeithasol gyfrifol: contractau allanoli gwasanaethau

(1)Y camau gweithredu penodol a grybwyllir yn adran 24(5)(c) yw—

(a)rhoi sylw i’r cod allanoli gwasanaethau cyhoeddus a’r gweithlu a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 32;

(b)wrth lunio a chynnal gweithdrefnau cyn dyfarnu’r contract allanoli gwasanaethau, ystyried pa un a ddylai’r contract gynnwys cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol;

(c)wrth negodi a dyfarnu’r contract, cymryd pob cam rhesymol—

(i)i gynnwys unrhyw gymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol y mae’n ystyried y dylent gael eu cynnwys;

(ii)i sicrhau bod modd gweithredu cymalau sydd wedi eu cynnwys yn y contract;

(d)wrth reoli’r contract, cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod unrhyw gymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol sydd wedi eu cynnwys yn y contract yn cael eu gweithredu;

(gweler adrannau 32 i 37 am ddarpariaeth bellach ynghylch y cod allanoli gwasanaethau cyhoeddus a’r gweithlu, ystyr “cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol” a chymhwyso’r cymalau hynny i gontractau allanoli gwasanaethau).

(2)Yn y Rhan hon, ystyr “contract allanoli gwasanaethau” yw contract—

(a)y mae gofyniad i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus sy’n cael ei ddarparu gan, neu a ddarparwyd yn flaenorol gan, awdurdod contractio yn cael ei drosglwyddo i berson arall odano, neu

(b)y mae person arall yn cytuno i gyflawni unrhyw swyddogaeth arall sy’n cael ei gyflawni gan, neu a gyflawnwyd yn flaenorol gan, awdurdod contractio odano;

ac mae “allanoli” i’w ddehongli yn unol â hynny.

Cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol

27Cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol mewn contractau adeiladu mawr

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi cymalau enghreifftiol ar gyfer contractau adeiladu mawr (“cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol”) sydd wedi eu cynllunio i sicrhau’r gwelliannau o ran llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol a restrir o dan bob categori yn y Tabl yn is-adran (2).

(2)Y categorïau a’r gwelliannau yw—

TABL 1
CategoriGwelliannau
TaliadauSicrhau a gorfodi taliadau prydlon.
CyflogaethDarparu cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc, pobl hŷn, pobl ddi-waith hirdymor, pobl ag anableddau neu bobl a all fel arall fod o dan anfantais (er enghraifft oherwydd eu hil, eu crefydd neu eu cred, eu rhyw, eu hunaniaeth rhywedd neu eu cyfeiriadedd rhywiol).
CydymffurfeddSicrhau cydymffurfedd â rhwymedigaethau cyfreithiol mewn perthynas â hawliau cyflogaeth (gan gynnwys yr isafswm cyflog a chyflog byw), iechyd a diogelwch, a chynrychiolaeth undebau llafur.
Hyfforddiant Darparu hyfforddiant priodol i weithwyr.
Is-gontractioDarparu cyfleoedd i fusnesau bach a chanolig a sefydliadau gwirfoddol i gyflawni gweithiau, cyflenwi cynhyrchion neu ddarparu gwasanaethau.
Yr amgylcheddGwneud rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, defnyddio deunyddiau cynaliadwy, cydnerthedd rhag effaith newid hinsawdd, lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, a gwella’r amgylchedd naturiol a bioamrywiaeth yn ofynnol.

(3)Mae cyfeiriad yn y Rhan hon at awdurdod contractio yn cynnwys cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol mewn contractau adeiladu mawr—

(a)yn gyfeiriad at yr holl gymalau contract enghreifftiol a gyhoeddir mewn cysylltiad â phob un o’r gwelliannau o dan y categorïau yn is-adran (2), a

(b)yn golygu ymgorffori cymalau sydd â’r un effaith neu’r un effaith yn sylweddol â’r cymalau contract enghreifftiol cyhoeddedig.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio is-adran (2)—

(a)er mwyn ychwanegu categori, a gwelliannau o dan y categori hwnnw, at y Tabl;

(b)er mwyn dileu categori, a gwelliannau o dan y categori hwnnw, o’r Tabl;

(c)er mwyn diwygio categori neu welliannau o dan gategori yn y Tabl.

28Cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol mewn is-gontractau

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys os yw awdurdod contractio yn bwriadu cynnwys cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol mewn contract adeiladu mawr y mae’n cytuno arno gyda gweithredwr economaidd (“contractiwr”) (ar ôl i’r awdurdod ystyried pa un ai i wneud hynny yn unol ag adran 25(1)(b)).

(2)Rhaid i’r awdurdod gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y rhwymedigaethau yn y cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol yn cael eu gweithredu pan fo’r contractiwr yn ymrwymo i is-gontract gydag unrhyw weithredwr economaidd arall (“is-gontractiwr”).

(3)Mae enghreifftiau o’r camau rhesymol y gellir eu cymryd o dan is-adran (2) yn cynnwys⁠—

(a)sicrhau bod cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol sy’n cael yr un effaith neu’r un effaith yn sylweddol â’r cymalau yn y contract adeiladu mawr yn cael eu cynnwys mewn unrhyw is-gontract—

(i)y mae’r contractiwr yn ymrwymo iddo gydag is-gontractiwr, a

(ii)y mae’r is-gontractiwr yn ymrwymo iddo gydag is-gontractiwr dilynol (ac yn y blaen);

(b)sicrhau y gall yr awdurdod contractio orfodi’r rhwymedigaethau mewn cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol o dan y contract adeiladu mawr neu o dan is-gontract;

(c)ei gwneud yn ofynnol i’r contractiwr gael cydsyniad yr awdurdod contractio cyn ymrwymo i is-gontract, gyda chydsyniad yn cael ei roi ar yr amod bod cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol sy’n cael yr un effaith neu’r un effaith yn sylweddol â’r cymalau sydd wedi eu cynnwys yn y contract adeiladu mawr yn cael eu cynnwys mewn unrhyw is-gontract;

(d)ei gwneud yn ofynnol i’r contractiwr hysbysu’r awdurdod contractio os yw’n bwriadu ymrwymo i is-gontract nad yw’n cynnwys cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol sy’n cael yr un effaith neu’r un effaith yn sylweddol â’r cymalau sydd wedi eu cynnwys yn y contract adeiladu mawr;

(e)ei gwneud yn ofynnol i’r contractiwr fonitro i ba raddau y mae unrhyw rwymedigaethau mewn cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol yn cael eu gweithredu pan fo’r contractiwr wedi ymrwymo i is-gontract gydag unrhyw weithredwr economaidd arall.

29Cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol: hysbysu Gweinidogion Cymru

(1)O ran contract adeiladu mawr, rhaid i awdurdod contractio hysbysu Gweinidogion Cymru—

(a)os nad yw’r awdurdod yn bwriadu cynnwys cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol yn y contract (er ei fod wedi ystyried pa un ai i wneud hynny yn unol ag adran 25(1)(b));

(b)os nad oes cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol wedi eu cynnwys yn y contract (er bod yr awdurdod wedi cymryd pob cam rhesymol yn unol ag adran 25(1)(c)(i));

(c)os nad oes unrhyw broses ar waith i sicrhau bod rhwymedigaethau mewn cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol yn cael eu gweithredu (er bod yr awdurdod wedi cymryd pob cam rhesymol yn unol ag adran 25(1)(c)(ii));

(d)os nad oes unrhyw broses ar waith i sicrhau bod rhwymedigaethau mewn cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol yn cael eu gweithredu pan fo’r contract yn cael ei is-gontractio (er bod yr awdurdod wedi cymryd pob cam rhesymol yn unol ag adran 28(2)).

(2)Rhaid gwneud hysbysiad o dan is-adran (1) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, a rhaid iddo nodi rhesymau’r awdurdod.

30Cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol: ymateb Gweinidogion Cymru

(1)Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad oddi wrth awdurdod contractio o dan adran 29(1), rhaid iddynt—

(a)cyhoeddi crynodeb o’r hysbysiad, a

(b)ystyried a ydynt yn fodlon ar y rhesymau a roddwyd ynddo.

(2)Wrth ystyried a ydynt yn fodlon ar y rhesymau, caiff Gweinidogion Cymru—

(a)ymgynghori â’r awdurdod;

(b)drwy hysbysiad ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod ddarparu unrhyw ddogfennau neu wybodaeth arall sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru at ddibenion is-adran (1) ar unrhyw ffurf neu mewn unrhyw fodd a bennir yn yr hysbysiad;

(c)darparu copi o’r hysbysiad o dan adran 29(1), ac unrhyw ddogfennau eraill neu wybodaeth arall a geir o dan baragraff (b), i is-grŵp caffael cyhoeddus yr CPG (gweler adran 9);

(d)ymgynghori ag is-grŵp caffael cyhoeddus yr CPG.

(3)Os yw Gweinidogion Cymru yn fodlon, ar ôl ystyried y rhesymau o dan is-adran (1), rhaid iddynt gyhoeddi crynodeb o’r rhesymau pam eu bod yn fodlon.

(4)Os nad yw Gweinidogion Cymru yn fodlon, ar ôl ystyried y rhesymau o dan is-adran (1), cânt roi cyfarwyddyd i’r awdurdod contractio i gymryd pob cam rhesymol i—

(a)cynnwys cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol yn y contract adeiladu mawr,

(b)rhoi prosesau ar waith i sicrhau bod rhwymedigaethau mewn cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol yn cael eu gweithredu, neu

(c)rhoi prosesau ar waith i sicrhau bod rhwymedigaethau mewn cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol yn cael eu gweithredu pan fo’r contract yn cael ei is-gontractio.

(5)Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (4), rhaid iddynt—

(a)hysbysu is-grŵp caffael cyhoeddus yr CPG eu bod wedi rhoi’r cyfarwyddyd, a

(b)cyhoeddi’r cyfarwyddyd.

(6)Pan na fo Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (4) er nad ydynt yn fodlon, rhaid iddynt—

(a)hysbysu is-grŵp caffael cyhoeddus yr CPG nad ydynt wedi rhoi cyfarwyddyd, a

(b)cyhoeddi crynodeb o—

(i)y rhesymau pam nad ydynt yn fodlon, a

(ii)y rhesymau pam nad ydynt yn rhoi cyfarwyddyd er nad ydynt yn fodlon.

(7)Rhaid i Weinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau o dan is-adrannau (2)(a) neu (b) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(8)Rhaid i awdurdod contractio ddarparu unrhyw ddogfennau neu wybodaeth arall y mae’n ofynnol iddo eu darparu neu ei darparu o dan is-adran (2)(b) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(9)Nid oes dim yn yr adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi gwybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried, ar ôl ymgynghori â’r awdurdod contractio priodol, y byddai’n esempt rhag cael ei datgelu pe bai’n destun cais am wybodaeth o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (p. 36).

31Cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol: contractau Gweinidogion Cymru

(1)O ran contract adeiladu mawr, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad—

(a)os nad ydynt yn bwriadu cynnwys cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol yn y contract (er eu bod wedi ystyried pa un ai i wneud hynny yn unol ag adran 25(1)(b));

(b)os nad oes cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol wedi eu cynnwys yn y contract (er eu bod wedi cymryd pob cam rhesymol yn unol ag adran 25(1)(c)(i));

(c)os nad oes unrhyw broses ar waith i sicrhau bod rhwymedigaethau mewn cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol yn cael eu gweithredu (er eu bod wedi cymryd pob cam rhesymol yn unol ag adran 25(1)(c)(ii));

(d)os nad oes unrhyw broses ar waith i sicrhau bod rhwymedigaethau mewn cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol yn cael eu gweithredu pan fo’r contract yn cael ei is-gontractio (er eu bod wedi cymryd pob cam rhesymol yn unol ag adran 28(2)).

(2)Rhaid i ddatganiad a wneir o dan is-adran (1) gael ei wneud cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol a rhaid iddo nodi rhesymau Gweinidogion Cymru.

Cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol a chod ymarfer allanoli gwasanaethau cyhoeddus

32Y cod allanoli gwasanaethau cyhoeddus a’r gweithlu

(1)At ddibenion cynnal neu wella ansawdd gwasanaethau cyhoeddus neu swyddogaethau eraill a allanolir gan awdurdodau contractio, rhaid i Weinidogion Cymru‍ lunio a chyhoeddi cod ymarfer (“y cod allanoli gwasanaethau cyhoeddus a’r gweithlu”) ynghylch materion cyflogaeth a phensiynau sy’n gysylltiedig â chontractau allanoli gwasanaethau.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r cod a rhaid iddynt gyhoeddi’r cod diwygiedig.

(3)Wrth lunio’r cod neu unrhyw ddiwygiad rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o’r cod ac unrhyw ddiwygiadau iddo gerbron y Senedd.

33Cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol mewn contractau allanoli gwasanaethau

Rhaid i’r cod allanoli gwasanaethau cyhoeddus a’r gweithlu gynnwys cymalau contract enghreifftiol (“cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol”) sydd, yn benodol—

(a)wedi eu cynllunio i sicrhau y bydd aelodau o staff a gyflogir gan awdurdodau contractio i ddarparu’r gwasanaethau, neu gyflawni’r swyddogaethau, sydd i’w hallanoli yn cael eu cyflogi, os ydynt yn dymuno, gan y person sy’n darparu’r gwasanaethau hynny, neu sy’n cyflawni’r swyddogaethau hynny, pan gânt eu hallanoli (“staff sy’n trosglwyddo”);

(b)wedi eu cynllunio i ddiogelu telerau ac amodau cyflogaeth a threfniadau pensiwn staff sy’n trosglwyddo;

(c)wedi eu cynllunio i sicrhau nad yw telerau ac amodau aelodau eraill o staff a gyflogir gan y person sy’n darparu’r gwasanaethau, neu sy’n cyflawni’r swyddogaethau, sy’n ymwneud â darparu’r gwasanaethau hynny, neu gyflawni’r swyddogaethau hynny, yn llai ffafriol ar y cyfan na thelerau ac amodau’r staff sy’n trosglwyddo, a bod trefniadau pensiwn yr aelodau eraill o staff hynny yn rhesymol;

(d)yn gwneud darpariaeth atodol i’r materion y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) i (c).

34Cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol mewn is-gontractau

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys os yw awdurdod contractio yn bwriadu cynnwys cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol mewn contract allanoli gwasanaethau y mae’n cytuno arno gyda gweithredwr economaidd (“contractiwr”) (ar ôl i’r awdurdod ystyried pa un ai i wneud hynny yn unol ag adran 26(1)(b)).

(2)Rhaid i’r awdurdod gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y rhwymedigaethau yn y cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol yn cael eu gweithredu pan fo’r contractiwr yn ymrwymo i is-gontract gydag unrhyw weithredwr economaidd arall (“is-gontractiwr”).

(3)Mae enghreifftiau o’r camau rhesymol y gellir eu cymryd o dan is-adran (2) yn cynnwys⁠—

(a)sicrhau bod cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol sy’n cael yr un effaith neu’r un effaith yn sylweddol â’r cymalau yn y contract allanoli gwasanaethau yn cael eu cynnwys mewn unrhyw is-gontract—

(i)y mae’r contractiwr yn ymrwymo iddo gydag is-gontractiwr, a

(ii)y mae’r is-gontractiwr yn ymrwymo iddo gyda chontractiwr dilynol (ac yn y blaen);

(b)sicrhau y caniateir i’r awdurdod contractio orfodi’r rhwymedigaethau mewn cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol o dan y contract allanoli gwasanaethau neu o dan is-gontract;

(c)ei gwneud yn ofynnol i’r contractiwr gael cydsyniad yr awdurdod contractio cyn ymrwymo i is-gontract, gyda chydsyniad yn cael ei roi ar yr amod bod cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol sy’n cael yr un effaith neu’r un effaith yn sylweddol â’r cymalau sydd wedi eu cynnwys yn y contract allanoli gwasanaethau yn cael eu cynnwys mewn unrhyw is-gontract;

(d)ei gwneud yn ofynnol i’r contractiwr hysbysu’r awdurdod contractio os yw’n bwriadu ymrwymo i is-gontract nad yw’n cynnwys cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol sy’n cael yr un effaith neu’r un effaith yn sylweddol â’r cymalau sydd wedi eu cynnwys yn y contract allanoli gwasanaethau;

(e)ei gwneud yn ofynnol i’r contractiwr fonitro i ba raddau y mae unrhyw rwymedigaethau mewn cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol yn cael eu gweithredu pan fo’r contractiwr wedi ymrwymo i is-gontract gydag unrhyw weithredwr economaidd arall.

35Cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol: hysbysu Gweinidogion Cymru

(1)O ran contract allanoli gwasanaethau, rhaid i awdurdod contractio hysbysu Gweinidogion Cymru—

(a)os nad yw’r awdurdod yn bwriadu cynnwys cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol yn y contract (er ei fod wedi ystyried pa un ai i wneud hynny yn unol ag adran 26(1)(b));

(b)os nad oes cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol wedi eu cynnwys yn y contract (er bod yr awdurdod wedi cymryd pob cam rhesymol yn unol ag adran 26(1)(c)(i));

(c)os nad oes unrhyw broses ar waith i sicrhau bod rhwymedigaethau mewn cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol yn cael eu gweithredu (er bod yr awdurdod wedi cymryd pob cam rhesymol yn unol ag adran 26(1)(c)(ii));

(d)os nad oes unrhyw broses ar waith i sicrhau bod rhwymedigaethau mewn cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol yn cael eu gweithredu pan fo’r contract yn cael ei is-gontractio (er bod yr awdurdod wedi cymryd pob cam rhesymol yn unol ag adran 34(2)).

(2)Rhaid gwneud hysbysiad o dan is-adran (1) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, a rhaid iddo nodi rhesymau’r awdurdod.

36Cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol: ymateb Gweinidogion Cymru

(1)Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad o dan adran 35(1), rhaid iddynt—

(a)cyhoeddi crynodeb o’r hysbysiad, a

(b)ystyried a ydynt yn fodlon ar y rhesymau a roddwyd yn yr hysbysiad.

(2)Wrth ystyried a ydynt yn fodlon ar y rhesymau, caiff Gweinidogion Cymru—

(a)ymgynghori â’r awdurdod contractio;

(b)drwy hysbysiad ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod ddarparu unrhyw ddogfennau neu wybodaeth arall sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru at ddibenion is-adran (1) ar unrhyw ffurf neu mewn unrhyw fodd a bennir yn yr hysbysiad;

(c)darparu copi o’r hysbysiad o dan adran 35(1), ac unrhyw ddogfennau neu wybodaeth arall a geir o dan baragraff (b), i is-grŵp caffael yr CPG;

(d)ymgynghori ag is-grŵp caffael yr CPG.

(3)Os yw Gweinidogion Cymru yn fodlon, ar ôl ystyried y rhesymau o dan is-adran (1), rhaid iddynt gyhoeddi crynodeb o’r rhesymau pam eu bod yn fodlon.

(4)Os nad yw Gweinidogion Cymru yn fodlon, ar ôl ystyried y rhesymau o dan is-adran (1), caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i’r awdurdod contractio i gymryd pob cam rhesymol i—

(a)cynnwys cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol yn y contract allanoli gwasanaethau,

(b)rhoi prosesau ar waith i sicrhau bod rhwymedigaethau mewn cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol yn cael eu gweithredu, neu

(c)rhoi prosesau ar waith i sicrhau bod rhwymedigaethau mewn cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol yn cael eu gweithredu pan fo’r contract yn cael ei is-gontractio.

(5)Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (4), rhaid iddynt—

(a)hysbysu is-grŵp caffael yr CPG eu bod wedi rhoi’r cyfarwyddyd, a

(b)cyhoeddi’r cyfarwyddyd.

(6)Pan na fo Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (4) er nad ydynt yn fodlon, rhaid iddynt—

(a)hysbysu is-grŵp caffael cyhoeddus yr CPG nad ydynt wedi rhoi cyfarwyddyd, a

(b)cyhoeddi crynodeb o—

(i)y rhesymau pam nad ydynt yn fodlon, a

(ii)y rhesymau pam nad ydynt yn rhoi cyfarwyddyd er nad ydynt yn fodlon.

(7)Rhaid i Weinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau o dan is-adrannau (2)(a) neu (b) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(8)Rhaid i awdurdod contractio ddarparu unrhyw ddogfennau neu wybodaeth arall y mae’n ofynnol iddo eu darparu neu ei darparu o dan is-adran (2)(b) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(9)Nid oes dim yn yr adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi gwybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried, ar ôl ymgynghori â’r awdurdod contractio priodol, y byddai’n esempt rhag cael ei datgelu pe bai’n destun cais am wybodaeth o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (p. 36).

37Cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol: contractau Gweinidogion Cymru

(1)O ran contract allanoli gwasanaethau, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad—

(a)os nad ydynt yn bwriadu cynnwys cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol yn y contract (er eu bod wedi ystyried pa un ai i wneud hynny yn unol ag adran 26(1)(b));

(b)os nad oes cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol wedi eu cynnwys yn y contract (er eu bod wedi cymryd pob cam rhesymol yn unol ag adran 26(1)(c)(i));

(c)os nad oes unrhyw broses ar waith i sicrhau bod rhwymedigaethau mewn cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol yn cael eu gweithredu (er eu bod wedi cymryd pob cam rhesymol yn unol ag adran 26(1)(c)(ii));

(d)os nad oes unrhyw broses ar waith i sicrhau bod rhwymedigaethau mewn cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol yn cael eu gweithredu pan fo’r contract yn cael ei is-gontractio (er eu bod wedi cymryd pob cam rhesymol yn unol ag adran 34(2)).

(2)Rhaid i ddatganiad a wneir o dan is-adran (1) gael ei wneud cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol a rhaid iddo nodi rhesymau Gweinidogion Cymru.

Strategaethau caffael

38Strategaeth gaffael

(1)Rhaid i awdurdod contractio lunio strategaeth (“strategaeth gaffael”) sy’n nodi sut y mae’r awdurdod yn bwriadu cynnal caffael cyhoeddus.

(2)Rhaid i strategaeth gaffael, yn benodol—

(a)datgan sut y mae’r awdurdod yn bwriadu sicrhau y bydd yn cynnal caffael cyhoeddus mewn ffordd gymdeithasol gyfrifol yn unol ag adran 24(1);

(b)datgan sut y mae’r awdurdod yn bwriadu cymryd pob cam rhesymol i gyflawni ei amcanion caffael cymdeithasol gyfrifol pan fo’n cynnal caffael cyhoeddus mewn perthynas ag unrhyw gontract rhagnodedig;

(c)datgan sut y mae’r awdurdod yn bwriadu gwneud taliadau sy’n ddyledus o dan gontract yn brydlon ac, oni bai nad yw hyn yn rhesymol ymarferol, yn ddim hwyrach na 30 o ddiwrnodau ar ôl cyflwyno anfoneb (neu hawliad tebyg).

(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio is-adran (2)—

(a)er mwyn pennu materion eraill y mae rhaid i strategaethau caffael ymdrin â hwy;

(b)er mwyn lleihau nifer y diwrnodau a grybwyllir yn is-adran (2)(c).

(4)Rhaid i awdurdod contractio—

(a)adolygu ei strategaeth gaffael bob blwyddyn ariannol,

(b)gwneud unrhyw ddiwygiadau y mae’r awdurdod yn ystyried eu bod yn briodol o bryd i’w gilydd, ac

(c)cyhoeddi’r strategaeth, ac unrhyw ddiwygiadau, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl iddi gael ei llunio neu ei diwygio.

(5)Caniateir i ddau neu ragor o awdurdodau contractio gyflawni eu rhwymedigaethau o dan yr adran hon drwy lunio strategaeth gaffael ar y cyd.

PENNOD 3ADRODD AC ATEBOLRWYDD

39Adroddiadau caffael cymdeithasol gyfrifol blynyddol

(1)Rhaid i awdurdod contractio sydd wedi dyfarnu unrhyw gontractau rhagnodedig yn ystod blwyddyn ariannol lunio a chyhoeddi adroddiad blynyddol ar ei gaffael cyhoeddus cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn honno.

(2)Rhaid i’r adroddiad gynnwys—

(a)crynodeb o’r ymarferion caffael cyhoeddus a arweiniodd yn ystod y flwyddyn at ddyfarnu contract rhagnodedig neu y bwriadwyd iddynt arwain at ddyfarnu contract o’r fath;

(b)adolygiad sy’n ystyried i ba raddau y cymerwyd pob cam rhesymol yn yr ymarferion caffael cyhoeddus hynny i gyflawni amcanion caffael cymdeithasol gyfrifol yr awdurdod;

(c)i’r graddau y mae’r awdurdod yn ystyried y gellir cymryd yn rhesymol gamau pellach mewn ymarferion caffael cyhoeddus yn y dyfodol i gyflawni ei amcanion caffael cymdeithasol gyfrifol, datganiad o sut y mae’n bwriadu cymryd y camau hynny;

(d)crynodeb o’r gwaith caffael cyhoeddus y mae’r awdurdod yn disgwyl ei gynnal yn ystod y ddwy flwyddyn ariannol nesaf;

(e)gwybodaeth o’r math a grybwyllir yn is-adran (3) y mae rhaid ei phennu drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;

(f)gwybodaeth arall a bennir drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(3)Yr wybodaeth y cyfeirir ati yn is-adran (2)(e) yw gwybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod arnynt ei hangen er mwyn asesu i ba raddau—

(a)y mae awdurdod contractio sy’n cyflawni ei amcanion caffael cymdeithasol gyfrifol yn cyfrannu at gyflawni’r nodau llesiant;

(b)y mae caffael cyhoeddus awdurdod contractio, yn gyffredinol, yn cyfrannu at gyflawni’r nodau llesiant, er enghraifft drwy—

(i)bod o fudd i economi ei ardal, gan gynnwys drwy ddyfarnu contractau i fusnesau bach a chanolig;

(ii)ystyried materion amgylcheddol;

(iii)ystyried materion cymdeithasol (eraill);

(iv)hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg.

40Cofrestr gontractau

(1)Rhaid i awdurdod contractio greu, cynnal a chyhoeddi cofrestr gontractau.

(2)Mae cofrestr gontractau yn gofrestr o gontractau cyhoeddus yr ymrwymwyd iddynt gan yr awdurdod contractio sydd o ddisgrifiad a ragnodwyd gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau (“contractau cofrestradwy”).

(3)Mewn perthynas â phob contract cofrestradwy, rhaid i gofrestr gontractau gynnwys—

(a)dyddiad dyfarnu’r contract;

(b)enw’r contractiwr;

(c)cyfeiriad prif fan busnes y contractiwr;

(d)y pwnc;

(e)y gwerth amcangyfrifedig;

(f)y dyddiad cychwyn;

(g)y dyddiad terfynu y darperir ar ei gyfer yn y contract (gan ddiystyru unrhyw opsiwn i estyn y contract) neu, pan na fo dyddiad wedi ei bennu, ddisgrifiad o’r amgylchiadau y bydd y contract yn terfynu odanynt;

(h)hyd unrhyw gyfnod y gellir estyn y contract;

(i)unrhyw wybodaeth arall a ragnodir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.

(4)Ond caiff awdurdod atal cyhoeddi cofnod, neu ran o gofnod, yn y gofrestr os yw’n ystyried y byddai ei gyhoeddi neu ei chyhoeddi—

(a)yn rhwystro gorfodi’r gyfraith neu fel arall yn groes i fudd y cyhoedd,

(b)yn rhagfarnu buddiannau masnachol unrhyw berson,

(c)yn rhagfarnu cystadleuaeth deg rhwng gweithredwyr economaidd, neu

(d)yn datgelu cyfeiriad preswyl (yn achos yr wybodaeth y cyfeirir ati yn is-adran (3)(c)).

(5)Ni chaiff awdurdod ddileu cofnod yn ei gofrestr gontractau ond ar ôl i’r contract y mae’r cofnod yn ymwneud ag ef ddod i ben neu gael ei derfynu.

41Ymchwiliadau caffael

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ymchwilio i’r modd y mae awdurdod contractio yn cynnal caffael cyhoeddus.

(2)Caiff ymchwiliad ymwneud ag ymarfer caffael cyhoeddus penodol a gynhaliwyd gan awdurdod contractio neu â’i weithgarwch caffael cyhoeddus cyffredinol.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad, ei gwneud yn ofynnol i awdurdod contractio ddarparu’r dogfennau hynny neu’r wybodaeth arall honno sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru at ddibenion ymchwiliad o dan yr adran hon, ar unrhyw ffurf neu mewn unrhyw fodd a bennir yn yr hysbysiad.

(4)Rhaid i awdurdod contractio—

(a)rhoi cymorth rhesymol i Weinidogion Cymru mewn perthynas ag ymchwiliad;

(b)cydymffurfio â hysbysiad o dan is-adran (3) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(5)Ar ôl cwblhau’r ymchwiliad, caiff Gweinidogion Cymru—

(a)gwneud argymhellion i’r awdurdod contractio;

(b)cyhoeddi adroddiad ar ganlyniadau’r ymchwiliad;

(c)gosod copi o unrhyw adroddiad a gyhoeddwyd gerbron y Senedd.

42Adroddiad blynyddol Gweinidogion Cymru ar gaffael cyhoeddus

(1)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd blwyddyn ariannol, rhaid i Weinidogion Cymru lunio adroddiad ar gaffael cyhoeddus yng Nghymru yn ystod y flwyddyn honno.

(2)Rhaid i’r adroddiad, yn benodol, gynnwys gwybodaeth ynghylch—

(a)yr adroddiadau caffael blynyddol a gyhoeddir o dan adran 39;

(b)canlyniadau unrhyw ymchwiliadau o dan adran 41.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r adroddiad a gosod copi ohono gerbron y Senedd.

PENNOD 4CYFFREDINOL

43Canllawiau

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau ar weithrediad y Rhan hon.

(2)Caiff canllawiau, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)bodloni’r gofyniad yn adran 24(1) i gynnal caffael cyhoeddus mewn ffordd gymdeithasol gyfrifol;

(b)gosod amcanion caffael cymdeithasol gyfrifol;

(c)cymryd pob cam rhesymol i fodloni amcanion caffael cymdeithasol gyfrifol;

(d)cymalau gweithiau cyhoeddus cymdeithasol;

(e)y cod allanoli gwasanaethau cyhoeddus a’r gweithlu;

(f)cymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol;

(g)ymgynghori wrth lunio strategaeth gaffael;

(h)ffurf a chynnwys strategaethau caffael ac adroddiadau caffael blynyddol;

(i)y broses a ddefnyddir gan awdurdod contractio i gymeradwyo ei strategaeth gaffael;

(j)strategaethau caffael ar y cyd.

(3)Rhaid i awdurdod contractio roi sylw i ganllawiau perthnasol a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru.

(4)Cyn dyroddi canllawiau o dan y Rhan hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)yr CPG;

(b)unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

44Rheoliadau

(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Rhan hon—

(a)yn arferadwy drwy offeryn statudol;

(b)yn cynnwys y pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol;

(c)yn cynnwys y pŵer i wneud darpariaeth ddeilliadol, darpariaeth atodol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.

(2)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wnaed o dan adran 22(4), 24(8)(c), 25(3) neu 27(4) oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron y Senedd ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

(3)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau a wnaed o dan y Rhan hon yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan y Senedd.

45Dehongli Rhan 3

(1)Yn y Rhan hon—

(2)At ddibenion y Rhan hon mae gwerth amcangyfrifedig contract i’w ganfod yn unol â rheoliad 6(1) o’r Rheoliadau Contractau Cyhoeddus.

RHAN 4DARPARIAETHAU TERFYNOL

46Dehongli cyffredinol

Yn y Ddeddf hon—

47Mân ddiwygiad i DLlCD 2015

Yn adran 9(6) o DLlCD 2015 (cyhoeddi amcanion llesiant diwygiedig corff cyhoeddus), yn lle “(3) neu (4)” rhodder “(4) neu (5)”.

48Dod i rym

(1)Daw’r Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn; ac eithrio’r adran hon, a ddaw i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

(2)Caiff gorchymyn o dan is-adran (1) bennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol.

(3)Mae pŵer Gweinidogion Cymru i wneud gorchymyn o dan is-adran (1) yn arferadwy drwy offeryn statudol.

49Enw byr

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023.

(fel y’i cyflwynir gan adran 22)

ATODLEN 1AWDURDODAU CONTRACTIO

1Comisiwn y Senedd.

2Person a restrir fel “corff cyhoeddus” yn adran 6(1) o DLlCD 2015.

3Comisiynydd y Gymraeg.

4Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.

5Comisiynydd Plant Cymru.

6Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

7Gofal Cymdeithasol Cymru.

8Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

9Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

10Awdurdod Cyllid Cymru.

11Trafnidiaeth Cymru.

12Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

13Prif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.

14Hybu Cig Cymru.

15Cymwysterau Cymru.

16Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

17Cyngor y Gweithlu Addysg.

18Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.

(fel y’i cyflwynir gan adran 24(4))

ATODLEN 2AMCANION CAFFAEL CYMDEITHASOL GYFRIFOL

1Os caiff y nodau llesiant eu diwygio, rhaid i awdurdod contractio adolygu ei amcanion caffael cymdeithasol gyfrifol.

2Os yw awdurdod contractio, wrth gynnal adolygiad o dan baragraff 1, yn penderfynu nad yw un neu ragor o’i amcanion caffael cymdeithasol gyfrifol yn briodol mwyach, rhaid iddo ddiwygio’r amcan neu’r amcanion o dan sylw.

3Caiff awdurdod contractio adolygu a diwygio ei amcanion caffael cymdeithasol gyfrifol ar unrhyw adeg arall.

4Pan fo awdurdod contractio yn diwygio ei amcanion caffael cymdeithasol gyfrifol o dan baragraff 2 neu 3, rhaid iddo eu cyhoeddi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.