xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

7Y pŵer o dan adran 1 yn dod i benLL+C

(1)Daw’r pŵer o dan adran 1 i ben ar ddiwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r Ddeddf hon i rym, ac eithrio i’r graddau y darperir fel arall o dan yr adran hon.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddarparu—

(a)nad yw’r pŵer o dan adran 1 i ddod i ben ar ddiwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (1), ond

(b)bod y pŵer o dan adran 1 i barhau mewn grym am gyfnod pellach,‍ sy’n dod i ben heb fod yn hwyrach na 30 Ebrill 2031, a bennir yn y rheoliadau.

(3)Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o dan is-adran (2)—

(a)yn arferadwy unwaith yn unig, a

(b)yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(4)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan is-adran (2) oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

(5)O ran drafft o’r offeryn—

(a)ni chaniateir ei osod gerbron Senedd Cymru cyn i gasgliadau’r adolygiad o dan adran 6 gael eu cyhoeddi, a

(b)ni chaniateir ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru ar ôl diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (1).

(6)Nid yw’r ffaith bod y pŵer o dan adran 1 wedi dod i ben yn effeithio ar barhad mewn grym unrhyw reoliadau a wnaed o dan y pŵer hwnnw cyn iddo ddod i ben.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 7 mewn grym ar 9.9.2022, gweler a. 9