7Y pŵer o dan adran 1 yn dod i ben
(1)
Daw’r pŵer o dan adran 1 i ben ar ddiwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r Ddeddf hon i rym, ac eithrio i’r graddau y darperir fel arall o dan yr adran hon.
(2)
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddarparu—
(a)
nad yw’r pŵer o dan adran 1 i ddod i ben ar ddiwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (1), ond
(b)
bod y pŵer o dan adran 1 i barhau mewn grym am gyfnod pellach, sy’n dod i ben heb fod yn hwyrach na 30 Ebrill 2031, a bennir yn y rheoliadau.
(3)
Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o dan is-adran (2)—
(a)
yn arferadwy unwaith yn unig, a
(b)
yn arferadwy drwy offeryn statudol.
(4)
Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan is-adran (2) oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
(5)
O ran drafft o’r offeryn—
(a)
ni chaniateir ei osod gerbron Senedd Cymru cyn i gasgliadau’r adolygiad o dan adran 6 gael eu cyhoeddi, a
(b)
ni chaniateir ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru ar ôl diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (1).
(6)
Nid yw’r ffaith bod y pŵer o dan adran 1 wedi dod i ben yn effeithio ar barhad mewn grym unrhyw reoliadau a wnaed o dan y pŵer hwnnw cyn iddo ddod i ben.