6Adolygu gweithrediad ac effaith y Ddeddf hon
(1)
Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)
adolygu gweithrediad ac effaith y Ddeddf hon, a
(b)
cyhoeddi casgliadau’r adolygiad cyn diwedd y cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r Ddeddf hon i rym.
(2)
Rhaid i adolygiad o dan yr adran hon gynnwys asesiad gan Weinidogion Cymru o fecanweithiau deddfwriaethol amgen ar gyfer gwneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru a rheoliadau a wneir o dan unrhyw un neu ragor o’r Deddfau hynny.
(3)
Wrth gynnal adolygiad o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â Senedd Cymru ac unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.