4Gweithdrefn ar gyfer rheoliadau o dan adran 1LL+C

(1)Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o dan adran 1 yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan adran 1 oni bai—

(a)bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad, neu

(b)bod Gweinidogion Cymru o’r farn, oherwydd brys, ei bod yn angenrheidiol gwneud y rheoliadau heb fod drafft o’r offeryn wedi ei osod a’i gymeradwyo yn y modd hwnnw.

(3)Mae is-adrannau (4) i (8) yn gymwys i offeryn a wneir heb fod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

(4)Rhaid gosod yr offeryn gerbron Senedd Cymru.

(5)Os na chymeradwyir yr offeryn drwy benderfyniad gan Senedd Cymru yn ystod y cyfnod o 60 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y gwneir yr offeryn, mae’r rheoliadau sydd wedi eu cynnwys yn yr offeryn yn peidio â chael effaith ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.

(6)Ond—

(a)os yw Senedd Cymru yn pleidleisio ar gynnig ar gyfer penderfyniad i gymeradwyo’r offeryn cyn diwrnod olaf y cyfnod hwnnw, a

(b)os na chaiff y cynnig ei basio,

mae’r rheoliadau sydd wedi eu cynnwys yn yr offeryn yn peidio â chael effaith ar ddiwedd y diwrnod y cynhelir y bleidlais.

(7)Ni chaniateir gwneud cynnig yn Senedd Cymru ar gyfer penderfyniad i gymeradwyo’r offeryn yn ystod y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y gwneir yr offeryn.

(8)Wrth gyfrifo’r‍ cyfnodau a grybwyllir yn is-adrannau (5), (6) a (7), rhaid diystyru unrhyw adeg pan fo Senedd Cymru—

(a)wedi ei diddymu, neu

(b)ar doriad am fwy na 4 diwrnod.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 4 mewn grym ar 9.9.2022, gweler a. 9