3Datganiad polisi: rheoliadau o dan adran 1 sy’n cael effaith ôl-weithredol
(1)
Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad o’u polisi mewn cysylltiad ag arfer y pŵer o dan adran 1 i wneud rheoliadau sy’n cael effaith ôl-weithredol.
(2)
Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r datganiad cyn diwedd y cyfnod o dri mis sy’n dechrau â’r dyddiad y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.
(3)
Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r datganiad, ac os gwnânt hynny, rhaid iddynt gyhoeddi’r datganiad diwygiedig.