1Pŵer i addasu Deddfau Trethi Cymru etc.
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, addasu unrhyw un neu ragor o Ddeddfau Trethi Cymru a rheoliadau a wneir o dan unrhyw un neu ragor o’r Deddfau hynny os ydynt yn ystyried bod yr addasiadau’n angenrheidiol neu’n briodol at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a ganlyn neu mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor ohonynt—
(a)
sicrhau na osodir treth gwarediadau tirlenwi neu dreth trafodiadau tir pan fyddai gwneud hynny yn anghydnaws ag unrhyw rwymedigaethau rhyngwladol;
(b)
amddiffyn rhag osgoi trethi mewn perthynas â threth gwarediadau tirlenwi neu dreth trafodiadau tir;
(c)
ymateb i newid i dreth ragflaenol sy’n effeithio, neu a allai effeithio, ar y symiau a delir i mewn i Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 118(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32);
(d)
ymateb i benderfyniad llys neu dribiwnlys sy’n effeithio, neu a allai effeithio, ar weithrediad unrhyw un neu ragor o Ddeddfau Trethi Cymru neu reoliadau a wneir o dan unrhyw un neu ragor o’r Deddfau hynny.
(2)
Ond gweler adran 2(4), (5) a (6) (cyfyngiadau ar y pŵer).
(3)
Yn y Ddeddf hon, ystyr “Deddfau Trethi Cymru” yw—
(4)
Yn yr adran hon—
ystyr “rhwymedigaethau rhyngwladol” (“international obligations”) yw unrhyw rwymedigaethau rhyngwladol sydd gan y Deyrnas Unedig heblaw rhwymedigaethau i gadw at hawliau’r Confensiwn (o fewn yr ystyr a roddir i “the Convention rights” yn Neddf Hawliau Dynol 1998 (p. 42)) a’u gweithredu;
ystyr “treth ragflaenol” (“predecessor tax”) yw—
(a)
treth dir y dreth stamp;
(b)
y dreth dirlenwi.