Cyflwyniad

1.Mae’r Nodiadau Esboniadol hyn ar gyfer Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022 (“y Ddeddf”) a basiwyd gan Senedd Cymru ar 12 Gorffennaf 2022 ac a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 8 Medi 2022. Fe’u lluniwyd gan Grŵp yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad Llywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo’r sawl sy’n darllen y Ddeddf. Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â’r Ddeddf ond nid ydynt yn rhan ohoni.

Cefndir Y Ddeddf a Chrynodeb Ohoni

2.Mae Senedd Cymru (“y Senedd”) wedi pasio tair Deddf sy’n ymwneud â threthu; Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (‘DCRhT’), Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (‘DTTT’) a Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (‘DTGT’). Cyfeirir at y tair Deddf hyn gyda’i gilydd fel ‘Deddfau Trethi Cymru’ yn y Ddeddf.

3.Mae’r Ddeddf yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud newidiadau, drwy reoliadau, i Ddeddfau Trethi Cymru a rheoliadau a wneir o dan y Deddfau hynny, os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n briodol gwneud y newidiadau hynny at unrhyw un neu ragor o’r pedwar diben a bennir yn y Ddeddf.

4.Gellir gwneud y rheoliadau naill ai o dan y weithdrefn gadarnhaol ddrafft, neu mewn achosion brys yn unig, o dan y weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’ (trafodir hyn ymhellach isod).

Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Adran 1 – Pŵer i ddiwygio Deddfau Trethi Cymru etc.

5.Mae adran 1(1) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n addasu Deddfau Trethi Cymru a rheoliadau a wneir odanynt os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod yr addasiadau’n angenrheidiol neu’n briodol at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a ganlyn neu mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor ohonynt—

6.Is-adran 1(1)(a) – sicrhau na osodir treth trafodiadau tir a threth gwarediadau tirlenwi pan fyddai gwneud hynny yn anghydnaws ag unrhyw rwymedigaethau rhyngwladol. Gellid defnyddio’r pŵer yn adran 1 at y diben hwn, er enghraifft, pan ymrwymir i gytundeb masnach neu gytundeb trethiant dwbl â gwlad arall a phan fo gosod treth gwarediadau tirlenwi neu dreth trafodiadau tir mewn achos penodol yn groes i’r cytundeb hwnnw.

7.Is-adran 1(1)(b) – diogelu rhag osgoi trethi mewn perthynas â threth gwarediadau tirlenwi a threth trafodiadau tir. Efallai y bydd Gweinidogion Cymru am gymryd camau o’r fath pan fônt o’r farn y bydd diwygio’r ddeddfwriaeth yn sicrhau nad oes unrhyw amheuaeth ynghylch y ffordd y bwriedir ei chymhwyso, yn ogystal ag mewn achosion pan fanteisir ar fwlch. Ni ddiffinnir osgoi trethi yn y Ddeddf ac felly mae’n cymryd ei ystyr naturiol.

8.Is-adran 1(1)(c) – ymateb i newidiadau a wneir i’r trethi rhagflaenol sy’n effeithio, neu a allai effeithio, ar y symiau a delir gan yr Ysgrifennydd Gwladol i mewn i Gronfa Gyfunol Cymru. Diffinnir y trethi rhagflaenol yn adran 1(4) fel treth dir y dreth stamp a’r dreth dirlenwi.

9.Is-adran 1(1)(d) – ymateb i benderfyniad llys neu dribiwnlys sy’n effeithio, neu a allai effeithio, ar weithrediad Deddfau Trethi Cymru neu reoliadau a wneir o dan y Deddfau hynny. Ni fydd y penderfyniadau hyn o reidrwydd yn benderfyniadau ynghylch darpariaethau Deddfau Trethi Cymru eu hunain, neu eu rheoliadau cysylltiedig. Gall penderfyniadau sy’n effeithio ar y trethi rhagflaenol neu benderfyniadau ynghylch pwyntiau cyfreithiol cyffredinol hefyd effeithio ar weithrediad Deddfau Trethi Cymru a’u rheoliadau cysylltiedig.

10.Mae adran 1(2) yn nodi bod cyfyngiadau penodol ar y pŵer cyffredinol a ddarperir i Weinidogion Cymru gan adran 1. Nodir y cyfyngiadau hynny yn adrannau 2(4), (5) a (6) ac fe’u trafodir ymhellach isod.

11.Mae adrannau 1(3) ac 1(4) yn darparu cyfres o ddiffiniadau.

Adran 2 – Rheoliadau o dan adran 1: atodol

12.Mae adran 2(1) yn caniatáu i reoliadau a wneir gan ddefnyddio’r pŵer yn adran 1 osod treth gwarediadau tirlenwi a threth trafodiadau tir a gosod neu estyn atebolrwydd i gosb.

13.Mae adran 2(2) yn caniatáu i reoliadau a wneir gan ddefnyddio’r pŵer yn adran 1 gael effaith ôl-weithredol, cyn belled ag-

14.Mae adran 2(3)(a) yn caniatáu i reoliadau a wneir gan ddefnyddio’r pŵer yn adran 1 wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.

15.Mae adran 2(3)(b) yn caniatáu i reoliadau a wneir gan ddefnyddio’r pŵer yn adran 1 wneud darpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, atodol etc.

16.Nid yw adrannau 2(1) i 2(3) yn rhestr gynhwysfawr o’r hyn y caniateir i reoliadau a wneir gan ddefnyddio’r pŵer yn adran 1 ei wneud.

17.Mae adran 2(4)(a) yn atal y pŵer yn adran 1 rhag cael ei ddefnyddio i addasu Rhan 2 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 ac unrhyw reoliadau a wneir o dan y Rhan honno. Mae’r darpariaethau hynny’n ymwneud yn bennaf â chreu Awdurdod Cyllid Cymru a’i lywodraethiant.

18.Mae adran 2(4)(b) ac (c) yn atal y pŵer i wneud rheoliadau yn adran 1 rhag cael ei ddefnyddio i addasu rheoliadau sy’n pennu cyfraddau a bandiau ar gyfer treth trafodiadau tir neu gyfraddau treth ar gyfer gwarediadau tirlenwi. Mae gan Weinidogion Cymru eisoes y pŵer i addasu’r cyfraddau a’r bandiau treth hynny drwy gyfrwng rheoliadau, sy’n ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’.

19.Mae adran 2(5) yn gwahardd rheoliadau a wneir o dan adran 1 rhag gwneud darpariaeth sy’n ymwneud ag ymchwilio i droseddau.

20.Mae adran 2(6) yn gwahardd rheoliadau a wneir o dan adran 1 rhag newid unrhyw weithdrefn gan y Senedd ar gyfer gwneud offerynnau statudol o dan Ddeddfau Trethi Cymru. Er enghraifft, os bydd darpariaeth yn Neddfau Trethi Cymru yn darparu bod rhaid i offeryn gael ei wneud o dan y weithdrefn gadarnhaol ddrafft, ni chaiff rheoliadau o dan adran 1 addasu’r ddarpariaeth honno fel bod rhaid i’r offeryn gael ei wneud o dan y weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’.

21.Mae adran 2(7) yn darparu nad yw’r pŵer i wneud rheoliadau yn adran 1 yn effeithio ar unrhyw bŵer arall sydd gan Weinidogion Cymru eisoes i wneud rheoliadau yn Neddfau Trethi Cymru. Yn yr un modd, nid yw gallu Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau gan ddefnyddio pwerau eraill yn Neddfau Trethi Cymru yn effeithio ar y pŵer yn adran 1.

Adran 3 – Datganiad polisi: rheoliadau o dan adran 1 sy’n cael effaith ôl-weithredol

22.Mae adran 3(1) yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi datganiad ynghylch eu polisi mewn cysylltiad ag arfer y pŵer i wneud rheoliadau sy’n cael effaith ôl-weithredol.

23.Mae adran 3(2) yn darparu bod rhaid cyhoeddi’r datganiad cyn diwedd y cyfnod o dri mis sy’n dechrau â’r dyddiad y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol.

24.Mae adran 3(3) yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddiwygio eu datganiad polisi. Os gwnânt hynny, rhaid iddynt gyhoeddi’r datganiad diwygiedig hwn.

Adran 4 – Gweithdrefn ar gyfer rheoliadau o dan adran 1

25.Mae adran 4(1) yn darparu bod y pŵer i wneud rheoliadau o dan adran 1 yn arferadwy drwy offeryn statudol.

26.Mae adran 4(2) yn darparu y caniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan adran 1 naill ai o dan y weithdrefn gadarnhaol ddrafft neu, pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn bod angen eu gwneud ar frys, o dan y weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’.

27.O dan y weithdrefn gadarnhaol ddrafft, ni chaniateir gwneud offeryn statudol oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi.

28.O dan y weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’, caniateir gwneud offeryn statudol a chaniateir iddo ddod i rym cyn iddo gael ei gymeradwyo gan y Senedd. Pan ddefnyddir y weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’, mae adran 4(4) yn darparu bod rhaid gosod yr offeryn gerbron Senedd Cymru, ac mae adran 4(5) yn darparu bod rhaid i’r Senedd gymeradwyo’r rheoliadau o fewn cyfnod o 60 niwrnod ar y mwyaf(1) er mwyn i’r rheoliadau sydd wedi eu cynnwys yn yr offeryn barhau i gael effaith ar ôl i’r cyfnod hwnnw ddod i ben. Mae adran 4(6) yn darparu, pan fo’r Senedd yn pleidleisio ar gynnig i gymeradwyo’r offeryn cyn diwedd y cyfnod o 60 niwrnod ac na chaiff yr offeryn ei gymeradwyo, y bydd y rheoliadau sydd wedi eu cynnwys yn yr offeryn yn peidio â chael effaith ar ddiwedd y diwrnod y cynhelir y bleidlais. Mae adran 4(7) yn darparu na chaniateir gwneud unrhyw gynnig yn y Senedd i gymeradwyo’r offeryn a wneir o dan y weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’ (ac felly ni chaiff y Senedd ystyried yr offeryn na phleidleisio arno) hyd nes y bydd 28 o ddiwrnodau(2) wedi mynd heibio o’r dyddiad (ac yn cynnwys y dyddiad) y gwneir yr offeryn.

Adran 5 – Rheoliadau’n peidio â chael effaith: atodol

29.Mae adran 5 yn nodi’r hyn sy’n digwydd os yw offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan adran 1 yn cael ei wneud o dan y weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’ ond yn methu â chael cymeradwyaeth y Senedd (a’r rheoliadau sydd wedi eu cynnwys yn yr offeryn hwnnw felly’n peidio â chael effaith).

30.Mae adran 5(2) yn darparu bod unrhyw atebolrwydd, neu atebolrwydd uwch, i dreth trafodiadau tir neu dreth gwarediadau tirlenwi na fyddai wedi codi oni bai am y rheoliadau i’w drin fel pe na bai erioed wedi codi.

31.Mae adran 5(3) yn darparu bod unrhyw dynnu yn ôl hawlogaeth i gredyd treth, neu leihau hawlogaeth o’r fath (mewn perthynas â threth gwarediadau tirlenwi) na fyddai wedi digwydd oni bai am y rheoliadau i’w drin fel pe na bai erioed wedi digwydd.

32.Mae adran 5(4) yn darparu bod unrhyw atebolrwydd i gosb, neu gynyddu swm cosb, na fyddai wedi digwydd oni bai am y rheoliadau i’w drin fel pe na bai erioed wedi codi.

33.Mae adran 5(5) yn darparu nad yw’r ffaith bod y rheoliadau wedi peidio â chael effaith yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wnaed o dan y rheoliadau neu drwy ddibynnu arnynt. Bydd hyn yn sicrhau bod camau a gymerwyd gan y trethdalwr yn unol â’r rheoliadau yn ystod y cyfnod roeddent yn cael effaith yn parhau’n ddilys, ac yn yr un modd bydd yn diogelu camau a gymerwyd gan Awdurdod Cyllid Cymru.

Adran 6 - Adolygu gweithrediad ac effaith y Ddeddf hon

34.Mae adran 6 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i adolygu gweithrediad ac effaith y Ddeddf a chyhoeddi casgliadau’r adolygiad hwnnw o fewn 4 blynedd i’r dyddiad y daw’r Ddeddf i rym. Rhaid i’r adolygiad hwnnw gynnwys asesiad o unrhyw fecanweithiau deddfwriaethol amgen ar gyfer gwneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru ac i reoliadau a wneir o dan y Deddfau hynny. At hynny, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Senedd ac unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol wrth gynnal yr adolygiad.

Adran 7 – Y pŵer o dan adran 1 yn dod i ben

35.Mae adran 7(1) yn darparu bod y pŵer i wneud rheoliadau yn adran 1 yn dod i ben bum mlynedd ar ôl y dyddiad y daw’r Ddeddf i rym, oni bai bod rheoliadau o dan adran 7(2) yn darparu bod y pŵer i barhau mewn grym am gyfnod pellach. Fodd bynnag, rhaid i’r cyfnod pellach hwnnw ddod i ben ar 30 Ebrill 2031 neu cyn hynny.

36.Dim ond unwaith y caniateir arfer y pŵer yn adran 7(2) (adran 7(3)).

37.Rhaid i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan y pŵer yn adran 7(2) gael ei wneud o dan y weithdrefn gadarnhaol ddrafft (adran 7(4)).

38.Mae adran 7(5) yn darparu na chaniateir gosod rheoliadau a wneir o dan adran 7(2) gerbron y Senedd cyn i gasgliadau’r adolygiad sy’n ofynnol gan adran 6 gael eu cyhoeddi. Mae hefyd yn darparu na chaiff y Senedd gymeradwyo’r rheoliadau ar ôl i’r cyfnod cychwynnol o bum mlynedd ddod i ben.

39.Mae adran 7(6) yn darparu bod rheoliadau a wneir o dan adran 1, cyn i’r pŵer hwnnw ddod i ben, yn parhau mewn grym ar ôl iddo ddod i ben.

Adran 10 – Enw byr

40.Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022.

Cofnod Y Trafodion Yn Senedd Cymru

41.Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o hynt y Ddeddf drwy’r Senedd. Gellir cael Cofnod y Trafodion a rhagor o wybodaeth am hynt y Ddeddf hon ar wefan y Senedd yn:

CyfnodDyddiad
Cyflwynwyd13 Rhagfyr 2021
Cyfnod 1 – Dadl26 Ebrill 2022
Cyfnod 2 Pwyllgor Craffu – ystyried y gwelliannau9 Mehefin 2022
Cyfnod 3 Cyfarfod Llawn – ystyried y gwelliannau5 Gorffennaf 2022
Cam 4 Cymeradwywyd gan y Senedd12 Gorffennaf 2022
Y Cydsyniad Brenhinol8 Medi 2022
1

Nid yw’r cyfnod o 60 niwrnod yn cynnwys unrhyw gyfnod pan fo Senedd Cymru wedi ei diddymu na phan fo ar doriad am fwy na 4 diwrnod.

2

Nid yw’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau yn cynnwys unrhyw gyfnod pan fo Senedd Cymru wedi ei diddymu na phan fo ar doriad am fwy na 4 diwrnod.