RHAN 3SICRHAU ADDYSG DRYDYDDOL AC YMCHWIL A’U CYLLIDO

Addysg bellach a hyfforddiant

98Cymorth ariannol ar gyfer addysg bellach neu hyfforddiant: darpariaeth bellach

(1)

Wrth arfer y pŵer o dan adran 97(1)(d) neu (e), caiff y Comisiwn neu Weinidogion Cymru sicrhau bod adnoddau ariannol yn cael eu darparu drwy gyfeirio at unrhyw ffioedd neu daliadau sy’n daladwy gan y person sy’n cael neu’n bwriadu cael yr addysg neu’r hyfforddiant neu drwy gyfeirio at unrhyw fater arall (megis trafnidiaeth neu ofal plant).

(2)

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddarparu na chaniateir i adnoddau ariannol at ddibenion penodedig gael eu sicrhau o dan adran 97(1)(a) neu (b) ond i ddarparwyr cofrestredig mewn categorïau penodedig.

(3)

Caiff rheoliadau o dan is-adran (2) ddarparu ar gyfer eithriadau i gyrsiau addysg bellach neu hyfforddiant penodedig neu i ddisgrifiadau penodedig o gyrsiau o’r fath; a chaniateir i gwrs gael ei ddisgrifio drwy gyfeirio at (ymhlith pethau eraill)—

(a)

gofynion sydd i’w bodloni gan y cwrs;

(b)

y disgrifiad o berson sy’n darparu’r cwrs;

(c)

y cymhwyster y mae’r cwrs yn arwain ato.

(4)

Yn is-adrannau (2) a (3), ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu yn y rheoliadau.