Rhagolygol
(1)Rhaid i’r Comisiwn sicrhau bod cyfleusterau rhesymol yn cael eu darparu i Gymru ar gyfer—
(a)addysg bellach sy’n addas i ofynion personau sydd wedi cyrraedd 19 oed, a
(b)hyfforddiant sy’n addas i ofynion personau o’r fath.
(2)Mae cyfleusterau yn rhesymol os ydynt (gan roi sylw i adnoddau’r Comisiwn) o’r nifer hwnnw a’r ansawdd hwnnw y gellir disgwyl yn rhesymol i’r Comisiwn sicrhau’r ddarpariaeth ohonynt.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 95 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)