RHAN 3SICRHAU ADDYSG DRYDYDDOL AC YMCHWIL A’U CYLLIDO
Addysg bellach a hyfforddiant
95Addysg a hyfforddiant ar gyfer personau dros 19 oed
(1)
Rhaid i’r Comisiwn sicrhau bod cyfleusterau rhesymol yn cael eu darparu i Gymru ar gyfer—
(a)
addysg bellach sy’n addas i ofynion personau sydd wedi cyrraedd 19 oed, a
(b)
hyfforddiant sy’n addas i ofynion personau o’r fath.
(2)
Mae cyfleusterau yn rhesymol os ydynt (gan roi sylw i adnoddau’r Comisiwn) o’r nifer hwnnw a’r ansawdd hwnnw y gellir disgwyl yn rhesymol i’r Comisiwn sicrhau’r ddarpariaeth ohonynt.