RHAN 3LL+CSICRHAU ADDYSG DRYDYDDOL AC YMCHWIL A’U CYLLIDO

Addysg bellach a hyfforddiantLL+C

94Addysg a hyfforddiant ar gyfer personau cymwys dros 19 oedLL+C

(1)Rhaid i’r Comisiwn sicrhau bod cyfleusterau priodol yn cael eu darparu‍ i Gymru ar gyfer addysg berthnasol a hyfforddiant perthnasol i bersonau cymwys sy’n addas i’w gofynion hwy.

(2)Mae cyfleusterau yn briodol os ydynt—

(a)o nifer sy’n ddigonol i ddiwallu anghenion rhesymol unigolion, a

(b)o ansawdd sy’n ddigonol i ddiwallu’r anghenion hynny.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, bennu fel addysg berthnasol a hyfforddiant perthnasol at ddibenion is-adran (1) ddisgrifiad o addysg bellach neu hyfforddiant.

(4)Caiff rheoliadau o dan is-adran (3) ddisgrifio addysg bellach neu hyfforddiant drwy gyfeirio at (ymhlith pethau eraill)—

(a)y pwnc;

(b)lefel yr astudio, gan gynnwys drwy gyfeiri‍o—

(i)at y lefel cyrhaeddiad sydd, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi ei dangos gan gymhwyster sy’n dod o fewn lefel 1, 2 neu 3 o Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru, neu

(ii)at ddogfen arall a bennir yn y rheoliadau sy’n nodi disgrifiadau o lefelau cymwysterau;

(c)y math o gymhwyster.

(5)Yn is-adran (4)‍,‍ ystyr ”Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru” yw’r ddogfen sy’n dwyn y teitl hwnnw a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru (fel y mae’n cael ei diweddaru o bryd i’w gilydd) ac sy’n cynnwys disgrifiadau o lefelau cymwysterau.

(6)Wrth ffurfio barn at ddibenion is-adran‍ (4)(b)(i)‍ a chyn pennu dogfen o dan is-adran (4)(b)(ii)‍, caiff Gweinidogion Cymru roi sylw, yn benodol, i gyngor neu wybodaeth a ddarperir gan Gymwysterau Cymru sy’n ymwneud â chymwysterau.

(7)Mae person cymwys yn berson—

(a)sydd wedi cyrraedd 19 oed, a

(b)sy’n dod o fewn disgrifiad a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru (os oes rhai).

(8)Caiff rheoliadau o dan is-adran (7)(b)—

(a)disgrifio person cymwys drwy gyfeirio at (ymhlith pethau eraill)—

(i)oedran;

(ii)cymwysterau neu gyrhaeddiad addysgol arall;

(iii)statws;

(iv)incwm;

(b)pennu disgrifiadau gwahanol o berson cymwys mewn perthynas â disgrifiadau gwahanol o addysg bellach neu hyfforddiant.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 94 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)

I2A. 94 mewn grym ar 1.4.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2023/919, ergl. 5