RHAN 3SICRHAU ADDYSG DRYDYDDOL AC YMCHWIL A’U CYLLIDO
Addysg bellach a hyfforddiant
94Addysg a hyfforddiant ar gyfer personau cymwys dros 19 oed
(1)
Rhaid i’r Comisiwn sicrhau bod cyfleusterau priodol yn cael eu darparu i Gymru ar gyfer addysg berthnasol a hyfforddiant perthnasol i bersonau cymwys sy’n addas i’w gofynion hwy.
(2)
Mae cyfleusterau yn briodol os ydynt—
(a)
o nifer sy’n ddigonol i ddiwallu anghenion rhesymol unigolion, a
(b)
o ansawdd sy’n ddigonol i ddiwallu’r anghenion hynny.
(3)
Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, bennu fel addysg berthnasol a hyfforddiant perthnasol at ddibenion is-adran (1) ddisgrifiad o addysg bellach neu hyfforddiant.
(4)
Caiff rheoliadau o dan is-adran (3) ddisgrifio addysg bellach neu hyfforddiant drwy gyfeirio at (ymhlith pethau eraill)—
(a)
y pwnc;
(b)
lefel yr astudio, gan gynnwys drwy gyfeirio—
(i)
at y lefel cyrhaeddiad sydd, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi ei dangos gan gymhwyster sy’n dod o fewn lefel 1, 2 neu 3 o Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru, neu
(ii)
at ddogfen arall a bennir yn y rheoliadau sy’n nodi disgrifiadau o lefelau cymwysterau;
(c)
y math o gymhwyster.
(5)
Yn is-adran (4), ystyr ”Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru” yw’r ddogfen sy’n dwyn y teitl hwnnw a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru (fel y mae’n cael ei diweddaru o bryd i’w gilydd) ac sy’n cynnwys disgrifiadau o lefelau cymwysterau.
(6)
Wrth ffurfio barn at ddibenion is-adran (4)(b)(i) a chyn pennu dogfen o dan is-adran (4)(b)(ii), caiff Gweinidogion Cymru roi sylw, yn benodol, i gyngor neu wybodaeth a ddarperir gan Gymwysterau Cymru sy’n ymwneud â chymwysterau.
(7)
Mae person cymwys yn berson—
(a)
sydd wedi cyrraedd 19 oed, a
(b)
sy’n dod o fewn disgrifiad a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru (os oes rhai).
(8)
Caiff rheoliadau o dan is-adran (7)(b)—
(a)
disgrifio person cymwys drwy gyfeirio at (ymhlith pethau eraill)—
(i)
oedran;
(ii)
cymwysterau neu gyrhaeddiad addysgol arall;
(iii)
statws;
(iv)
incwm;
(b)
pennu disgrifiadau gwahanol o berson cymwys mewn perthynas â disgrifiadau gwahanol o addysg bellach neu hyfforddiant.