RHAN 3SICRHAU ADDYSG DRYDYDDOL AC YMCHWIL A’U CYLLIDO
Addysg bellach a hyfforddiant
93Addysg a hyfforddiant ar gyfer personau 16 i 19 oed
(1)
Rhaid i’r Comisiwn sicrhau bod cyfleusterau priodol yn cael eu darparu i Gymru ar gyfer—
(a)
addysg bellach sy’n addas i ofynion personau sydd dros yr oedran ysgol gorfodol ond nad ydynt wedi cyrraedd 19 oed, a
(b)
hyfforddiant sy’n addas i ofynion personau o’r fath.
(2)
Mae cyfleusterau yn briodol os ydynt—
(a)
o nifer sy’n ddigonol i ddiwallu anghenion rhesymol unigolion,
(b)
o ansawdd sy’n ddigonol i ddiwallu’r anghenion hynny, ac
(c)
yn ddigonol i fodloni’r hawlogaethau a roddir o dan adran 33F o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21).