RHAN 3SICRHAU ADDYSG DRYDYDDOL AC YMCHWIL A’U CYLLIDO
Cyllido addysg uwch
92Cymorth ariannol gan Weinidogion Cymru ar gyfer cyrsiau addysg uwch penodol
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru sicrhau bod adnoddau ariannol yn cael eu darparu i berson (“darparwr”) mewn cysylltiad â gwariant yr aed iddo, neu wariant yr eir iddo, gan y darparwr neu gan gorff sy’n cydlafurio at ddiben—
(a)
darparu cwrs addysg uwch perthnasol yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru;
(b)
darparu cwrs addysg uwch perthnasol i bersonau sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru.
(2)
Caiff Gweinidogion Cymru sicrhau bod adnoddau ariannol yn cael eu darparu o dan is-adran (1)—
(a)
drwy ddarparu adnoddau eu hunain;
(b)
drwy wneud trefniadau i berson arall ddarparu adnoddau;
(c)
drwy wneud trefniadau i bersonau ddarparu adnoddau ar y cyd (pa un a yw hynny’n cynnwys Gweinidogion Cymru ai peidio).
(3)
Os yw Gweinidogion Cymru eu hunain yn darparu adnoddau ariannol o dan yr adran hon, cânt osod y telerau a’r amodau hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol.
(4)
Caiff y telerau a’r amodau (ymhlith pethau eraill)—
(a)
galluogi Gweinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol ad-dalu, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, symiau a dalwyd ganddynt os na chydymffurfir ag unrhyw un neu ragor o’r telerau a’r amodau y talwyd y symiau yn ddarostyngedig iddynt;
(b)
ei gwneud yn ofynnol talu llog mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod pan fydd swm sy’n ddyledus i Weinidogion Cymru yn unol ag unrhyw un neu ragor o’r telerau a’r amodau yn parhau i fod heb ei dalu.
(5)
Yn yr adran hon—
ystyr “corff sy’n cydlafurio” (“collaborating body”), mewn perthynas â darparwr, yw person—
(a)
y mae’r darparwr yn bwriadu talu iddo, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru, yr holl adnoddau ariannol, neu rai ohonynt, a ddarperir iddo o dan is-adran (1), a
(b)
sy’n darparu, sy’n bwriadu darparu neu sydd wedi darparu cwrs addysg uwch perthnasol (neu ran o’r cwrs hwnnw) ar ran y darparwr, neu sy’n cydlafurio, sy’n bwriadu cydlafurio neu sydd wedi cydlafurio â’r darparwr at y diben y darperir yr adnoddau ariannol ar ei gyfer;
ystyr “cwrs addysg uwch perthnasol” (“relevant higher education course”) yw cwrs o fewn paragraff 1(g) neu (h) o Atodlen 6 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p. 40) (cyrsiau er mwyn paratoi at arholiadau proffesiynol ar lefel uwch neu sy’n darparu addysg ar lefel uwch).