xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3LL+CSICRHAU ADDYSG DRYDYDDOL AC YMCHWIL A’U CYLLIDO

Cyllido addysg uwchLL+C

Rhagolygol

91Cymorth ariannol o dan adrannau 88 ac 89: atodolLL+C

(1)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan adran 88 neu 89 i ddarparu adnoddau ariannol i berson, rhaid i’r Comisiwn roi sylw i ddymunoldeb peidio ag anghefnogi’r person hwnnw rhag cynnal neu ddatblygu cyllid o ffynonellau eraill.

(2)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan adran 88 neu 89 i ddarparu adnoddau ariannol i berson, rhaid i’r Comisiwn roi sylw (i’r graddau y mae’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny yng ngoleuni unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill) i ddymunoldeb cynnal unrhyw nodweddion arbennig i unrhyw ddarparwr addysg drydyddol y darperir adnoddau ariannol ar gyfer ei weithgareddau.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 91 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)